Mae gweinidogion o lywodraethau Cymru a’r Alban wedi mynegi “pryderon eithriadol” am y “diffyg didueddrwydd a thryloywder” wrth benodi cadeirydd newydd y rheoleiddiwr Ofcom.

Mae’r criw o bedwar wedi ysgrifennu at Nadine Dorries, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, yn gofyn am gael eu cynnwys yn y broses, ac i dderbyn rôl sy’n sicrhau bod yr ymgeisydd llwydiannus yn “rhywun sy’n gallu gweithio’n ddi-duedd ac yn annibynnol er lles yr holl wledydd”.

Mae’r broses wedi ailddechrau gan nad oedd modd penodi rhywun i’r swydd yn dilyn y cyfweliadau.

Paul Dacre, cyn-olygydd y Daily Mail, oedd dewis y prif weinidog Boris Johnson, yn ôl adroddiadau, ond fe dynnodd yn ôl o’r ras ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 19).

Llythyr

Yn eu llythyr, mae’r gweinidogion yn mynegi pryderon am y “broses barhaus ac estynedig” ac y gallai hyn gael “effaith andwyol ar statws y system ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus sydd â’r dyletswydd o wasanaethu’r holl wledydd”.

Maen nhw’n honni iddyn nhw ysgrifennu at Oliver Dowden, rhagflaenydd Nadine Dorries, ond nad oedden nhw wedi derbyn ateb.

Maen nhw’n dadlau y byddai cynnwys y gwledydd datganoledig yn sicrhau “hygrededd” unwaith eto wrth fynd ati i benodi cadeirydd, a bod yr oedi a’r amheuon ynghylch annibyniaeth y broses wedi cael effaith.

Ymateb

“Mae’r broses recriwtio yn deg ac agored ac yn unol â’n Cod Llywodraethiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, sydd yn amlinellu’n glir fod rhaid i banel asesu fod yn oddrychol wrth benderfynu pa ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer rôl,” meddai llefarydd ar ran Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.

“Caiff y broses ei rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y penodiad yn cael ei wneud yn unol â chanllawiau llym.”