Mae torfeydd yn cael bod yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru am y tro cyntaf ers cyn Covid-19 heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 20).

Pafiliwn Bont ym Mhontrhydfendigaid yw’r lleoliad ar gyfer y digwyddiad undydd, wrth i glybiau o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd unwaith eto.

Dydyn nhw ddim wedi gallu ymgynnull ar gyfer y digwyddiad cenedlaethol yn ystod y pandemig, a Wrecsam oedd y lleoliad diwethaf ar gyfer yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl.

Fe fu’r mudiad yn gweithredu ar-lein yn ystod y pandemig, ac maen nhw wedi codi’r oedran aelodaeth i 28 oed i geisio cynnwys mwy o bobol yn eu gweithgareddau.

Y drefn

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae’r trefniadau’n edrych ychydig yn wahanol i’r arfer eleni.

Mae gofyn fod pobol wedi prynu tocynnau ymlaen llaw i fod yn y gynulleidfa, ac mae’r trefnwyr wedi bod yn cydweithio â’r Cyngor i sicrhau bod gan bawb bàs Covid-19 neu ganlyniad prawf llif unffordd negyddol.

Bydd gofyn i bawb wisgo mygydau, a bydd system awyru ar waith yn ystod y digwyddiad.