Bydd Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn cael ei fory (dydd Mawrth, Rhagfyr 7), gan roi’r cyfle i sefydliadau cyhoeddus gynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n cydlynu’r diwrnod sy’n dathlu’r “newid byd ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg”, a bydd sefydliadau cyhoeddus yn ymuno yn y diwrnod gan ddathlu a hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.
Safonau’r Gymraeg sydd wedi creu’r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu’r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.
‘Ystyried y Gymraeg’
“Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.
“Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith.
“Mae’r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.”
Ond mae’n pwysleisio nad am un diwrnod yn unig y dylid dathlu a manteisio ar yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg.
“Wrth gwrs, mae disgwyl i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg ar yr un pryd yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth,” meddai wedyn.
“Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad penodol bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo.”
Cyngor Sir Ynys Môn
Un o’r sefydliadau fydd yn cymryd rhan yn y diwrnod unwaith eto eleni yw Cyngor Sir Ynys Môn.
Byddan nhw’n tynnu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol at eu gwasanaethau, gan gynnwys sgwrsio ar y ffôn, gohebu yn y Gymraeg, pori ar eu gwefan a’u cyfryngau cymdeithasol, ac ymgeisio am swyddi trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydym yn hynod o ffodus fel Cyngor bod gennym weithlu brwdfrydig o siaradwyr Cymraeg sy’n gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg o safon yn gwbl naturiol i’n trigolion,” meddai Ieuan Williams, dirprwy arweinydd y Cyngor a deilydd Portffolio’r Iaith Gymraeg.
“Mae’n bleser gennym ddathlu’r achlysur arbennig hwn a manteisio ar y cyfle i annog pobol Ynys Môn i ddefnyddio eu hawl i ddefnyddio’r Gymraeg hefo ni, ar y diwrnod hwn a phob diwrnod arall.”
Mae modd cefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl.