Mae cynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili wedi cyflwyno cynnig i ddyblu treth y cyngor i berchnogion ail dai yn y sir.
Yn ôl John Roberts, sy’n cynrychioli ward Cwm yr Aber, gellid gwario’r arian sy’n cael ei godi trwy’r dreth ychwanegol ar brosiectau cymunedol bach ar draws y fwrdeistref.
Cyflwynodd ei gynnig yn dilyn ymateb Rhyddid Gwybodaeth oedd yn dangos bod 234 o ail gartrefi yn y fwrdeistref.
Bydd ei gynnig yn cael ei ystyried fis nesaf.
‘Gallwn weithredu nawr’
Mae chwech ail gartref yn ward John Roberts ac er ei fod yn nodi bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo mynd i’r afael â’r sefyllfa’n genedlaethol, mae’n dweud nad oes angen aros cyn gweithredu yn ei sir ei hun.
“Mae’r Gweinidog dros Newid Hinsawdd hefyd wedi lansio ymgynghoriad a allai weld newidiadau i systemau cynllunio, trethi a thwristiaeth,” meddai.
“Ond does dim galw arnom ni yng Nghaerffili ddisgwyl am i rywbeth ddigwydd ymhen blynyddoedd, gallwn weithredu nawr.
“Tra bod y nifer o ail gartrefi yn Sir Caerffili yn is na llawer o’r ardaloedd sydd ar yr arfordir, yn fy marn i maent yn cyfrannu i godiad prisiau tai gan ei gwneud hi’n fwy anodd i bobol leol gaffael eu cartrefi eu hunain.
“Mae nifer o bentrefi bychan o gwmpas y fwrdeistref lle y byddai pobol leol yn hoffi byw ynddynt, felly mae’n bwysig nad ydynt yn dod yn fanteisiol i berchnogion ail gartrefi yn yr hir dymor.
“Byddai fy nghynnig – os caiff ei basio – hefyd yn cynnig cyfnod o ras o 12 mis petai unigolyn wedi etifeddu ail gartref drwy farwolaeth perthynas neu ffrind.
“Byddai buddsoddi’r arian a godir drwy’r dreth mewn prosiectau bach mewn cymunedau lleol yn darparu budd pendant y byddai pobol yn gallu gweld drostynt eu hunain.
“Gellid defnyddio arian i fwyhau’r Gronfa Grymuso Gymunedol a gyhoeddwyd gan y cyngor.
“O ystyried y gofid cyffredinol ar draws Cymru, gobeithiaf y bydd pob grŵp gwleidyddol ar y cyngor yn cefnogi’r cynnig, yn enwedig o ystyried y consyrn a fynegwyd gan lawer o gymunedau lleol a nawr Llywodraeth Cymru.”