Bragdy di-alcohol Cymreig yn Abertawe yw’r bragdy cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws amgylcheddol arbennig.

Mae Drop Bear Beer Co. wedi derbyn statws B Corporation, gan ddod yn rhan o grŵp bychan o fusnesau bwyd a diod yn y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar fod yn amgylcheddol gyfeillgar.

Y cwmni yw’r wythfed bragdy yn y Deyrnas Unedig i dderbyn y gydnabyddiaeth, ac mae’r dystysgrif yn dangos bod y cwmni’n cwrdd â’r safonau uchaf o ran perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol, atebolrwydd, a thryloywder cyhoeddus.

Wedi’i sefydlu gan Joelle Drummond a Sarah McNena, mae Drop Bear yn falch o fod yn gynaliadwy.

Mae’r cwmni’n defnyddio caniau er mwyn bod yn gynaliadwy, yn defnyddio cerbyd ynni 100% adnewyddadwy, deunydd pacio di-blastig, crysau-T cotwm organig, ac yn gweithredu swyddfa ddi-bapur.

Trwy gefnogi nifer o brosiectau ledled y byd, mae Drop Bear wedi gwrthbwyso 60.08 tunnell o nwyon tŷ gwydr (CO2e) ac wedi plannu dros 730 o goed.

‘Adeiladu gwell byd’

Dywedodd Joelle Drummond eu bod nhw’n “anhygoel o falch” o ddod yn fragdy B Corp cyntaf Cymru.

“Ein nod yw bragu’r cwrw crafft di-alochol gorau a helpu i adeiladu gwell byd i’w yfed ynddo, felly fel y gallwch ddychmygu, mae derbyn statws B Corp yn anhygoel o bwysig i ni,” meddai.

“Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i weithredu a gwneud hynny nawr.

“Mae ein cwsmeriaid eisiau siopa yn fwy cynaliadwy ac rydyn ni eisiau gallu eu sicrhau nhw nad ydyn ni ond yn siarad, ond yn gweithredu hefyd, ac mae statws B Corp yn ein helpu ni i wneud hynny’n union.”

Mae Drop Bear wedi arwyddo Ymrwymiadau Cydraddoldeb a Thwf Gwyrdd Llywodraeth Cymru hefyd.

Mae’r Ymrwymiad Twf Gwyrdd yn helpu busnesau i gymryd camau gweithredol i wella eu cynaliadwyedd, a chynnig ystod o ffyrdd syml, ymarferol er mwyn gwneud hynny.

Plannu coed

Er mwyn cynyddu eu hymrwymiad i blannu coed, mae’r bragdy wedi lansio ymgyrch ‘Cheers to Trees’, a bydd coeden yn cael ei phlannu am bob archeb i’r cwmni rhwng mis Tachwedd a diwrnod cyntaf Ionawr.

“Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd ar y funud, mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig darged o ddod yn garbon sero-net erbyn 2050,” meddai Joelle Drummond.

“Mae hynny’n golygu ein bod ni fel busnesau angen cynlluniau cwtogi carbon a gwrthbwyso carbon cryf.

“Mae Coed Cadw yn enwi coed fel ein harf mwyaf pwerus ac wedi cyfrifo y gallai dros 400 tunnell o garbon deuocsid gael ei gloi mewn ar gyfer pob hectar o goed ifanc.

“Yn syml, rydyn ni angen mwy o goed a gwarchod y rhai sydd gennym ni’n barod.

“Wrth i’n tîm baratoi ar gyfer yr adeg prysuraf o’r flwyddyn, fel roedd hi llynedd, roedden ni eisiau sicrhau y bydd Drop Bear a’r blaned yn elwa o’r cynnydd hwn mewn gwerthiannau.”

 

Bragdy Drop Bear Beer Co. yn troi at ddefnyddio caniau fel rhan o’u hymrwymiad i’r amgylchedd

“Mae Drop Bear wedi bod â safiad cryf ar gynaliadwyedd o’r dechrau un, ac mae hyn yn rhywbeth y mae Sarah a minnau wedi bod eisiau ei wneud ers tro”
Drop Bear

Cyhoeddi cynllun i adeiladu bragdy di-alcohol cyntaf Cymru

Drop Bear Beer Co yn gobeithio adeiladu’r bragdy rywle ar hyd yr M4 rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin