Bydd Trafnidiaeth Cymru yn lansio ap dwyieithog newydd fory (dydd Mawrth, Rhagfyr 7) yn y gobaith o wella profiadau teithwyr.
Maen nhw’n gobeithio y bydd yr ap yn rhoi mynediad cynt i deithwyr i’r wybodaeth ddiweddaraf ac i allu prynu tocynnau’n gyflym ac yn y ffordd symlaf.
Bydd modd i gwsmeriaid brynu a rheoli tocynnau o’u ffonau clyfar, ac i gadw llygad ar eu teithiau wrth iddyn nhw ddigwydd.
Bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr amserau mae disgwyl i drenau gyrraedd, a pha gyfleusterau sydd ar gael ar y trenau.
Gyda’r ap newydd yn cyrraedd, bydd yr hen ap yn cael ei ddirwyn i ben i gwsmeriaid, ond bydd modd defnyddio tocynnau sydd wedi’u cadw ar yr hen ap tan Fawrth 1, a bydd angen i gwsmeriaid greu cyfrifon newydd.
‘Cam mawr ymlaen’
Dywedodd Dave Williams, Cyfarwyddwr TG a Gwasanaethau Digidol TrC:
“Mae’r ap newydd ar gyfer ffonau clyfar yn gam mawr ymlaen yn y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i gwsmeriaid,” meddai Dave Williams, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol Trafnidiaeth Cymru.
“Mae mwy o bobol nag erioed yn defnyddio ein ap i brynu tocynnau a chael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am deithiau.
“Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cynnwys gwasanaeth dwyieithog am y tro cyntaf ac mae’n llawer haws defnyddio’r nodweddion allweddol.
“Dim ond un cam yw hwn ar y llwybr i gyflwyno ap trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn y pen draw a fydd yn darparu gwybodaeth am deithiau a thocynnau ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau ledled Cymru.”