Mae Aelod Seneddol Canol Caerdydd yn dweud bod ei “gwaed yn berwi” pan ddarllenodd honiadau bod partïon wedi cael eu cynnal yn Downing Street cyn y Nadolig y llynedd.

Bu Jo Stevens, llefarydd Cymru yng nghabinet y Blaid Lafur yn San Steffan, yn wael gyda Covid-19 dros y cyfnod hwnnw, a threuliodd wythnos yn yr ysbyty.

Yn ôl adroddiadau, cafodd partïon eu cynnal yn Downing Street ar adeg pan oedd ymgynnull mewn grwpiau yn groes i reolau Covid.

‘Ychwanegu halen i’r briw’

Wrth ysgrifennu yn y Mirror, dywedodd Jo Stevens, ei bod hi wedi mynd yn sâl â Covid ar Noswyl Nadolig, bod ei chyflwr wedi gwaethygu a’i bod hi wedi treulio wythnos “fwyaf dychrynllyd ei bywyd” yn yr ysbyty’n “meddwl a fyddai hi fyth yn dod adre”.

“Flwyddyn wedyn, dw i dal heb wella’n llawn ac mae fy mreuddwydion erchyll am y cyfnod hwnnw yn yr ysbyty mor fyw ag erioed,” meddai.

“Ond roeddwn i’n un o’r rhai lwcus. I gymaint o deuluoedd, bron i 170,000 ohonyn nhw, nid oedd eu hanwyliaid nhw mor lwcus a dydyn nhw heb ddod adre’.

“Felly pan ddarllenais yn y Mirror fod partïon wedi cael eu cynnal yn Rhif 10 cyn y Nadolig, fe wnaeth i’m gwaed ferwi.

“Ond dydi hynny ddim byd o gymharu efo sut y mae’n rhaid bod nifer o deuluoedd a ffrindiau sy’n galaru’n teimlo.

“Sôn am ychwanegu halen i’r briw. Fe wnaeth bobol farw ar eu pennau eu hunain, ymysg dieithriaid.

“Gwragedd, gwŷr, partneriaid, plant – yn cael eu hatal rhag gafael yn llaw eu hanwyliaid yn eu munudau olaf.

“Pobol ar hyd a lled y wlad methu bod efo’i gilydd oherwydd dywedodd Boris Johnson wrthyn nhw nad oedden nhw’n gallu.”

‘Torri rheolau’

Mae Jo Stevens yn mynd yn ei blaen i ddweud nad yw Boris Johnson yn credu bod y rheolau yn berthnasol iddo fo.

“Mae e wedi treulio ei oes yn eu torri nhw,” meddai.

“Ydych chi’n cofio Dominic Cummings a Matt Hancock?

“Yr unig reol mae Boris Johnson a’i ffrindiau’n ei ddilyn yw nad yw’r rheolau yn berthnasol iddyn nhw.”

Cefndir

Daw hyn ar ôl i’r Daily Mirror adrodd yr wythnos ddiwethaf fod Boris Johnson wedi annerch parti gadael aelod o staff fis Tachwedd y llynedd, ar adeg pan oedd y Deyrnas Unedig yng nghanol ail gyfnod clo.

Maen nhw’n dweud bod staff Downing Street wedi cynnal ail barti Nadolig wedyn, gyda Llundain o dan gyfyngiadau Lefel 3, a bod 40 i 50 o bobol yn bresennol ac wedi’u gwasgu i mewn i ystafell maint canolig yn Downing Street.

Dydy Boris Johnson ddim wedi gwadu bod y digwyddiadau wedi cael eu cynnal, ond mae’n dweud nad oedd unrhyw reolau wedi cael eu torri er ei fod yn gwrthod cynnig rhagor o eglurhad.

Heddlu’n ystyried a oedd partïon Nadolig Downing Street yn anghyfreithlon

Mae’r Blaid Lafur wedi cwyno am gyfres o dderbyniadau wrth i Boris Johnson groesawu gwesteion