Mae’n bosib iawn mai menyw fydd Archesgob nesaf Cymru, gyda hanner y rhai sydd yn y ras yn esgobion benywaidd.
Bydd drysau Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandrindod ar glo am hyd at dridiau tan Ragfyr 8, gyda’r Coleg Etholiadol yn cwrdd tu mewn i ddewis 14eg Archesgob Cymru.
Y dref yng nghanolbarth Cymru fu lleoliad ethol holl Archesgobion Cymru ers y cyntaf yn 1920, oherwydd ei safle canolog.
Mae’r etholiad yn dilyn ymddeoliad John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, a ddaliodd swydd Archesgob Cymru am bedair blynedd.
Bydd yn cael ei olynu gan un o esgobion presennol Cymru – Esgob Bangor, Andy John; Esgob Llanelwy, Gregory Cameron; Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy; Esgob Llandaf, June Osborne; Esgob Mynwy, Cherry Vann; neu Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas.
Beth yw’r drefn?
Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 9.30yb gyda gwasanaeth cyhoeddus o Gymun Sanctaidd.
Ar ôl trafod anghenion y Dalaith a chyfnod o weddi a myfyrdod, bydd y Llywydd yn galw am enwebiadau.
Bydd yr esgobion wedyn yn gadael y drafodaeth, cyn dychwelyd i bleidleisio.
Mae’n rhaid i enwebai dderbyn dau-draean o bleidleisiau’r coleg er mwyn cael eu hethol yn Archesgob.
Os nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn y pleidleisiau angenrheidiol, mae’r broses yn ailddechrau gydag enwebiadau newydd a all fod yn cynnwys y rhai a gafodd eu henwebu yn y bleidlais flaenorol.
Unwaith caiff yr Archesgob ei ethol, bydd drysau’r eglwys yn agor a chaiff enw’r Archesgob ei gyhoeddi.
Yr arfer yw i’r esgob gadarnhau ei etholiad ef neu hi ar unwaith.