Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud y byddai gadael i weinidogion wrthod dyfarniadau cyfreithiol yn “arwain at unbennaeth” ac yn dilyn “llwybr hynod beryglus”.

Yn ôl The Times, mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab, fynd ati i gwtogi ar allu barnwyr i ddyfarnu ar gyfreithlondeb y penderfyniadau mae gweinidogion y Llywodraeth yn eu gwneud.

O dan gynlluniau Johnson, byddai’r pwerau’n cael eu rhoi yn nwylo gweinidogion i allu dirymu penderfyniadau barnwyr os nad ydyn nhw’n cytuno â nhw.

Byddai hynny’n cynnwys y penderfyniadau yn ymwneud â Brexit, pan bennodd y Goruchaf Lys y dylai holl Senedd San Steffan fod wedi cael pleidleisio ynglŷn â thanio Erthygl 50, a bod prorogio’r Senedd wedi bod yn anghyfreithlon.

‘Llwybr hynod beryglus’

Dywed Liz Saville Roberts y byddai cryfhau gallu’r Llywodraeth i wfftio dyfarniadau barnwrol yn mynd ar hyd “lwybr hynod beryglus.”

“Pwrpas y farnwriaeth ydi gweithredu’r gyfraith yn unol â mae hi wedi cael ei gosod gan San Steffan,” meddai wrth golwg360.

“Mae hi bob tro’n bosib i’r Llywodraeth newid y gyfraith, ond mae’r barnwyr yn ei weithredu’n ddiduedd ac yn ddiragfarn.

“Mae gwleidyddion yn eu hanfod yn tueddu i wrando ar farn gyhoeddus y funud, ond pwrpas y gyfraith ydi atal y rhai pwerus rhag gwneud yr hyn sydd o fudd iddyn nhw ar draul y rhai gwannaf.

“Mae ymyrryd ar hynny yn torri’r annibyniaeth honno [rhwng barnwyr a gwleidyddion], ac mae’n llwybr hynod beryglus.

“Ddylai’r Llywodraeth ddim cael gwneud yr hyn maen nhw eisiau, os yw hynny y tu hwnt i’r gyfraith, achos os ydyn nhw’n cael gwneud o, pam ddylai pawb arall ddim cael gwneud yr un fath?”

‘Unbennaeth’

Mae’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd yn nodi bod gan y Llywodraeth bresennol hanes o wrthod bod yn destun craffu.

Liz Saville Roberts

“Os dydy’r Llywodraeth ddim yn cael ei dal i gyfrif gan y gyfraith, pam ddylai unrhyw un arall?,” meddai Liz Saville Roberts wedyn.

“Roedden nhw’n ceisio atal craffu ar y Senedd a’u gweithredoedd yn ôl yn 2019, ac fe gawson nhw eu stopio rhag gwneud hynny gan y Goruchaf Lys.

“Dyma ni Lywodraeth sy’n ceisio bod heb eu ffrwyno rhag unrhyw rym nac awdurdod – boed hynny yn y Senedd, ein democratiaeth ni ar lefel y Deyrnas Gyfunol, neu gan farnwyr sy’n gweithredu’r gyfraith.

“Mae Llywodraeth sy’n gwrthod derbyn eu bod nhw’r un mor atebol i’r gyfraith, rydyn ni fan hyn yn San Steffan yn ei osod, yn hynod beryg.

“Wrth osod eu pwerau nhw uwchben pob dim arall, mae hynny’n arwain at unbennaeth.”