Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r newyddion y bydd ysgolion Mynydd-y-garreg a Blaenau yn aros ar agor am y tro, gan alw ar yr Ysgrifennydd Addysg i sicrhau cynaladwyedd ysgolion bach y wlad.

Fis Chwefror eleni, cyhoeddodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr eu bod nhw’n ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer pedwar o wahanol gynigion ysgolion tan fis Mawrth.

Roedd y Cyngor Sir wedi cynnig cau Ysgol Mynydd-y-garreg a newid y dalgylch fel bod Ysgol Gwenllian yng Nghydweli’n cwmpasu’r ysgol honno, gyda’r ysgol yn agor ar ei newydd wedd ychydig flynyddoedd cyn symud i safle newydd sbon Ysgol Gwenllian ymhen rhai blynyddoedd.

Roedden nhw hefyd wedi cynnig cau Ysgol Blaenau ar Awst 31, gyda’r holl ddisgyblion yn cael eu cofrestru yn Ysgol Llandybie ac yn defnyddio’r ddau safle.

Byddai dalgylch Ysgol Llandybie wedi cael ei ailddynodi er mwyn cynnwys dalgylch hen Ysgol Blaenau o Fedi 1, gan newid natur y ddarpariaeth i gyfrwng Cymraeg.

Byddai Ysgol Llandybie wedi cael ei symud i safle ysgol newydd.

Gohirio penderfyniad

Mae’r cynigion i beidio â chynnal ysgolion cynradd ym Mynyddgarreg a Blaenau wedi eu hatal hyd nes daw canlyniad adolygiad estynedig o Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant, wedi gofyn i’w dîm addysg gynyddu’r adolygiad o’r Rhaglen Moderneiddio Addysg sydd ar y gweill ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau ei bod yn dal i ddiwallu anghenion plant a chymunedau.

Mae’n golygu na fydd cynigion yr oedd yn fwriad cytuno arnyn nhw heddiw, yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Bydd yr adolygiad estynedig yn ceisio sicrhau y gall y Rhaglen Moderneiddio Addysg addasu yn wyneb effaith pandemig Covid-19, Brexit, a newid yn yr hinsawdd, sydd wedi newid y ffordd mae pobol yn byw ac yn gwneud dewisiadau, wedi cael effaith ar y system addysg, ac wedi achosi cynnydd mewn costau adeiladu.

Dywedodd y Cynghorydd Davies y dylai’r adolygiad edrych ar sut y gallai dewisiadau rhieni ar gyfer addysg eu plant newid yn dilyn yr 20 mis diwethaf.

Mae’r Cyngor eisoes wedi sylwi ar newid yn newis rhieni yn dilyn y derbyniad blynyddol diweddaraf o ddisgyblion yn ystod y pandemig.

Gan fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y diwydiant adeiladu, gyda’r cynnydd yn y galw a’r costau cynyddol o ran llafur a deunyddiau, dywedodd y Cynghorydd Davies ei bod yn bwysig edrych ar effaith bosibl hyn ar gyflawni ac ariannu prosiectau adfywio ysgolion.

“Rydym am allu ystyried y pethau hyn wrth i ni adolygu’r Rhaglen Moderneiddio Addysg, fel bod amser gyda ni i roi sylw’n llawn i sut mae cymdeithas yn newid a sut bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau addysg,” meddai.

“Ar draws yr awdurdod, mae nifer o adolygiadau adrannol eraill ar y gweill hefyd. Y peth call fyddai sicrhau bod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn dal i gyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion y Cyngor, ac felly mae ystyried canlyniadau’r adolygiadau hyn hefyd yn gwneud synnwyr.

“Rwy’n gofyn i swyddogion wneud y darn hwn o waith i mi ar frys.”

Wrth siarad â’i gyd-aelodau o’r Cabinet, dywedodd: “Rwy’n gobeithio eich bod yn cytuno na ellir gwneud unrhyw benderfyniad heddiw heb fod y gwaith hwn yn digwydd. Rwy’n gofyn am i’r Cabinet beidio â bwrw ymlaen â’r cynigion ar gyfer Ysgol Mynyddygarreg ac Ysgol Blaenau ar hyn o bryd, ac ni fyddaf yn cyhoeddi’r hysbysiad statudol ar gyfer yr ysgolion hyn – rhaid i ni roi ystyriaeth lawn i’r cynigion hyn.”

Er i’r Cabinet gytuno i ohirio’r penderfyniadau hyn, cadarnhaodd y Cynghorydd Davies fod y Cyngor dal wedi ymrwymo i barhau i gyflawni nifer o brosiectau sydd eisoes yn cael eu datblygu.

Mae’r rhain yn cynnwys ysgol arbenigol newydd o’r radd flaenaf yn lle Ysgol Heol Goffa, ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Pen-bre, a gwelliannau arfaethedig yn Ysgol Bryngwyn yn Llanelli ac Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd y bydd y Cyngor hefyd yn blaenoriaethu cynlluniau am ysgol newydd yn lle Ysgol Dewi Sant, Llanelli, ac am ysgolion cynradd newydd yn Rhydaman a Llandeilo.

Diben Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin, ar y cyd â Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd sy’n gwasanaethu’r sir yn adnoddau sy’n effeithiol yn strategol ac yn weithredol, ac sy’n diwallu’r angen presennol a’r angen yn y dyfodol am addysg sy’n canolbwyntio ar yr ysgol a’r gymuned.

Caiff hyn ei gyflawni drwy ddatblygu a gwella adeiladau, seilwaith a mannau sy’n cael eu gosod, eu dylunio, eu hadeiladu neu’u haddasu er mwyn meithrin datblygiad cynaliadwy pobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2020/21, roedd £295m wedi ei fuddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau mewn ysgolion ledled y sir, ac roedd yn cynnwys adeiladu 12 ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd, yn ogystal ag ailfodelu ac adnewyddu nifer o ysgolion eraill.

‘Diolch am roi gobaith’

“Mae ein diolch yn fawr i’r Cynghorwyr am eu parodrwydd i wrando ar achos angerddol llywodraethwyr a chymunedau Blaenau a Mynydd-y-Garreg, a diolchwn hefyd i’r cymunedau hyn am eu safiad cadarn ac am roi gobaith newydd i ysgolion a chymunedau eraill trwy Gymru,” meddai Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae dyfodol y ddwy ysgol hyn yr un mor ddiogel yn awr ag unrhyw ysgol arall yn Sir Gâr.

“Cefnogwn hefyd adolygiad o ‘Gynllun Moderneiddio Addysg Sir Gâr’ gan fod y cynllun hwnnw wedi bwrw cysgod ansicrwydd dros dwsinau o ysgolion ers 16 mlynedd bellach.

“Dylid gwahodd pawb i fod yn rhan o broses creu cynllun newydd a fydd yn seiliedig ar gydweithrediad.

“Disgwyliwn arweiniad clir yn awr gan y Gweinidog Addysg fod ysgolion bach yn gallu derbyn grantiau am wariant cyfalaf i wella adeiladau gan fod Awdurdodau Lleol yn dal dan gamargraff fod yn rhaid cynnig cau ysgolion bach er mwyn denu grantiau mewn ysgolion trefol.”

Galw am sicrwydd

“Yn eu hadroddiad at Gabinet Cyngor Sir Gâr, dywed y swyddogion addysg am Ysgol Mynydd-y-Garreg “it is unlikely that an application for funding to renovate the school would be successful as this would not be considered to be strategic enough, considering that a further two investment projects were taking place in the area,” meddai Ffred Ffransis wedyn.

“Bu’r swyddogion felly dan yr argraff mai dim ond at y ddwy ysgol drefol y byddai’r llywodraeth yn dyrannu grantiau cyfalaf, ac felly mae’n rhaid i Jeremy Miles ddatgan yn gyhoeddus fod cymunedau gwledig hefyd yn haeddu cyfran teg o fuddsoddiad.

“Mae’n gwbl annerbyniol fod swyddogion y Gweinidog wedi anfon ateb camarweiniol at Gymdeithas yr Iaith mewn ymateb i’r cwestiwn hwn gan gyfeirio at grant lleihau dosbarthiadau ac at grant cyffredinol ysgolion bach.

“Erys y ffaith nad oes unrhyw grant cyfalaf at wella adeilad wedi mynd o Gronfa Ysgolion y 21ain Ganrif at unrhyw ysgol fach trwy Gymru.

“Rhaid i’r Gweinidog ddatgan yn glir y bydd hyn yn newid.”

‘Rhaid i’r Cyngor chwarae ei ran’

“Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd chwarae ei ran i sicrhau cynaladwyedd amser hir i’r ddwy ysgol,” meddai Ffred Ffransis wedyn.

“Yn yr un cyfarfod Cabinet, penderfynwyd newid oedran derbyn disgyblion yn Ysgol Swiss valley o bedair oed i dair oed, gan dderbyn dadl y swyddogion “The proposal aims to provide equal provision within the Llanelli area, aligning Ysgol Swiss Valley with neighbouring schools that are already 3-11 schools“.

“Mae union yr un ddadl yn berthnasol i Ysgol Mynydd-y-Garreg lle mae ysgol y pentre’n colli plant gan na all eu derbyn nes 4 oed tra bo’r ddwy ysgol yn nhre Cydweli’n derbyn plant yn 3 oed.

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn arbennig o falch y bydd penderfyniad heddiw yn golygu y bydd mwyafrif llefydd addysg yn ardal Cydweli bellach mewn addysg gyfrwng Gymraeg, ac na chollir plant o Fynydd-y-Garreg i addysg Saesneg yn yr adeilad newydd yng Nghydweli.”

Ymateb 

“Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol yn eu hardal ac am flaenoriaethu cynlluniau ar gyfer buddsoddi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“O ran cyllid Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif, dros bedair blynedd rydym wedi darparu £183m o gyfalaf i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal a chadw ysgolion.

“Rydym wedi cryfhau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion i gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig.

“Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau, ond rhaid i’r achos dros gau fod yn gryf ac ni chymerwyd hyd nes bydd yr holl ddewisiadau amgen ymarferol wedi’u hystyried.”