Mae Plaid Cymru yn ceisio gorfodi San Steffan i sicrhau bod y Mesur Cenedligrwydd a Ffiniau yn cyd-fynd â chynllun Cymru fel Cenedl Noddfa.
Yn ôl Plaid Cymru, bydd y mesur, sy’n dychwelyd i San Steffan i gael ei drafod heddiw (7 Rhagfyr), yn troi’r Deyrnas Unedig yn “un o’r gwledydd mwyaf gwrth-ffoaduriaid yn y byd”.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud ei fod yn mynd yn groes i bolisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru yn barod, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei wrthwynebu hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru Jane Hutt y byddai’r mesur yn “niweidio cymunedau” a “thanseilio” gweledigaeth y Senedd i greu Cymru’n Genedl Noddfa.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gwrthwynebu’r mesur, gan ddadlau ei fod yn trio deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru.
“Gwarthus”
Cyn y ddadl yn San Steffan heddiw, dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yno a llefarydd y blaid ar Faterion Cartref, bod angen system lloches sy’n “seiliedig ar ddynoliaeth – nid gelyniaeth”.
Dywedodd Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, fod y “mesur llym yn diystyru’r dyhead yng Nghymru i ddod yn Genedl Noddfa”, ac yn ceisio gwneud bywydau ceiswyr lloches mor “annifyr ag sy’n bosib”.
Byddai gwelliant Liz Saville Roberts yn mynnu bod Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn cyflwyno canllaw ar y cyd yn dweud sut y byddan nhw’n arfer mesurau dan y Mesur Ffiniau mewn modd sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Cenedl Noddfa.
Cafodd y Cynllun ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2019, a’i gadarnhau gan Uwch-Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Liz Saville Roberts: “Ar ôl y marwolaethau erchyll yn y Sianel bythefnos yn ôl, mae’n warthus fod y Llywodraeth Dorïaidd hon yn parhau i ymosod ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches diamddiffyn. Yn awr yn fwy nag erioed, mae arnom angen system lloches sy’n seiliedig ar ddynoliaeth – nid gelyniaeth.
“Byddai fy ngwelliant yn gwneud yn siŵr y perchir ein dyhead i fod yn genedl groesawgar. Byddai’n gwneud yn siŵr na fyddai unrhyw lywodraeth yn San Steffan yn cael tanseilio ein hymdrechion i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gymhathu’n llawn i gymdeithas yng Nghymru.
“Rwy’n annog pob AS Cymreig heddiw i gefnogi fy ngwelliant.”
“Tanseilio gweledigaeth”
Mae’r mesur yn cynnwys gwahaniaethu yn erbyn ffoaduriaid ar sail sut y maen nhw’n cyrraedd y Deyrnas Unedig, gan gymryd hawliau megis aduno teuluoedd, cefnogi ac ymsefydlu ers amser hir oddi wrthyn nhw.
Byddai’r bil hefyd yn cynnwys cyflwyno cosbau eithafol i bobol sy’n ceisio lloches, a phobol sy’n eu helpu i gyrraedd.
Fel rhan o’r mesur, byddai canolfannau cadw, tebyg i Bae Guantanamo, yn cael eu creu, yn hytrach na chaniatáu i ffoaduriaid fyw mewn cymunedau, gyda’r posibilrwydd o ddefnyddio cyfleusterau tramor.
Mae’r mesur hefyd yn cynnwys cynnig agor “canolfannau llety” yng Nghymru, a byddai hynny’n “tanseilio” gweledigaeth Llywodraeth Cymru, meddai.
“Byddai’r ceiswyr lloches hynny’n cael eu lletya mewn cyfleusterau mawr – a hynny am gyfnod amhenodol o bosibl – ar wahân i’r gymuned ehangach yng Nghymru,” meddai Mick Antoniw a Jane Hutt ar y cyd.
“Mae hyn yn eu hatal rhag datblygu rhwydweithiau cymorth cymdeithasol a chaffael iaith yn anffurfiol, ynghyd ag atal cyfleoedd i rannu diwylliannau, sy’n elfennau hanfodol wrth integreiddio.
“Yn anffodus, rydym wedi gweld drosom ein hunain pa mor niweidiol y gall ‘canolfannau llety’ o’r fath fod.
“Y llynedd, penderfynodd y Swyddfa Gartref ddefnyddio gwersyll hyfforddi’r Fyddin ym Mhenalun yn Sir Benfro fel canolfan loches.
“Tarfodd hyn ar gydlyniant cymunedol a chafwyd protestiadau y tu allan i’r gwersyll, gan achosi niwed i iechyd meddwl y bobl a oedd yn lletya yno.
“Rydym wedi gweld gwaddol gweithgarwch eithafiaeth asgell dde yn Sir Benfro ymhell ar ôl cau gwersyll Penalun.”
“Peri niwed”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn gwrthwynebu’r mesur.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd nifer o ddarpariaethau’r Bil yn effeithio ar weithrediad cyfrifoldebau datganoledig, ac effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu ym maes cydraddoldeb, cynllunio, gwasanaethau cymdeithasol, cydlyniant cymunedol ac integreiddio mudwyr.
“Cytunwn fod y system lloches yn ddiffygiol ac mae llawer o wendidau y mae angen mynd i’r afael â hwy,” meddai Mick Antoniw a Jane Hutt.
“Er hyn, mae’r Bil hwn yn mynd yn gwbl groes i’r hyn sydd ei angen a bydd yn hytrach yn gwaethygu’r annhegwch ac yn peri niwed i gymunedau.
“Credwn y bydd llawer o’r darpariaethau yn y Bil yn torri confensiynau rhyngwladol ac egwyddorion cyfiawnder, gan osod amodau eithafol ac anorchfygol yn eu hanfod ar bobl sy’n troi atom i’w diogelu.
“Yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn Genedl Noddfa. Rydym yn falch o’r holl asiantaethau ac unigolion sy’n cydweithio i greu profiad unedig a chroesawgar i bobl sydd wedi ailsefydlu yma.
“Mae Cymru yn wlad groesawgar a byddwn bob amser yn sefyll gyda’r rhai sydd ein hangen ni fwyaf. Rydym am i Lywodraeth y DU newid cyfeiriad er mwyn gwella – nid gwaethygu – sefyllfa gyfreithiol, foesegol a chyfiawn y Deyrnas Unedig.”
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi croesawu’r datganiad, ac wedi dweud eu bod nhw’n “hapus iawn” wrth weld bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Memorandwm.
“Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn atal eu caniatâd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ar y sail bod y bil yn ceisio deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli,” meddai Cyngor Ffoaduriaid Cymru.