Mae disgwyl i wyntoedd cryfion hyrddio dros Gymru heddiw ac yfory (Dydd Mawrth a Dydd Mercher, 7 a 8 Rhagfyr), meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym dros Gymru i gyd rhwng 9 o’r gloch a hanner nos heno, gyda disgwyl y gallai Storm Barra effeithio’r cyflenwad trydan i gartrefi ac amharu ar deithwyr.

Fe fydd y rhybudd yn ymestyn i rannau o Gymru – Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Abertawe a Bro Morgannwg – nes 6yh brynhawn fory.

Mae disgwyl y bydd gwyntoedd o 50 milltir yr awr, a gwyntoedd o hyd at 70 milltir yr awr ger yr arfordir gan gynnwys yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Ynys Môn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus rhag coed yn disgyn a thonnau uchel ar hyd yr arfordir.

Fe wnaeth Storm Arwen achosi peth difrod dros y penwythnos diwethaf, gan adael nifer o gartrefi heb drydan, dadwreiddio coed hynafol yng Nghonwy, a rhwystro ffyrdd ac atal trenau.

Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog cwsmeriaid i wirio amserlenni cyn teithio dros y dyddiau nesaf, gan ei bod hi’n debyg y bydd Storm Barra yn effeithio ar y rhwydwaith o heddiw ymlaen.

Mae amserlen ddiwygiedig, i ystyried cyfyngiadau cyflymder angenrheidiol ar draws Cymru, yn disodli’r amserlen arferol tan ddiwedd y gwasanaeth fory.

Gan ddibynnu ar y math o effaith a gaiff Storm Barra ar y rhwydwaith, mae’r amserlen yn destun newidiadau munud olaf.

Mae’n debyg y bydd effaith Storm Barra yn “debyg i’r effaith gafodd Storm Arwen”, meddai Trafnidiaeth Cymru.

Gwelodd y storm honno oddeutu 40 digwyddiad lle’r oedd cledrau wedi cael eu rhwystro gan goed oedd wedi cwympo a difrod i 12 trên, gyda llawer ohonyn nhw yn dal i gael eu hatgyweirio.