Mae’r gwaith o glirio’r llanast a ddaeth yn sgil Storm Arwen bellach ar y gweill.

Cafodd degau o filoedd o gartrefi eu gadael heb drydan nos Sadwrn (Tachwedd 27).

Fe wnaeth y storm stopio trenau rhag gweithredu, rhwygo coed o’u gwreiddiau a rhwygo ceblau pŵer.

Ond mae effeithiau’r storm yn dal i gael eu teimlo mewn rhannau o Gymru.

Heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29), mae coeden wedi disgyn ar draws y ffordd ar yr A498 yn Nant Gwynant, gan dynnu gwifrau a pholion teleffôn i lawr.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd y ffordd ar gau tan ddydd Mercher (Rhagfyr 1) wrth i waith gael ei gynnal i glirio’r llanast.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Roedd nifer o goed wedi cwympo dros nos Wener ac yn ystod oriau mân fore Sadwrn, a bu staff y Cyngor yn clirio’r difrod o’r ffyrdd.

“Mae’r mwyafrif llethol wedi eu clirio, er mae’r A498 rhwng Beddgelert at Nant Gwynant yn parhau ar gau dros dro gan fod coeden fawr a gwifrau i lawr.

“Mae’n debyg y bydd y ffordd ar gau tan ganol yr wythnos.

“Yn ogystal â delio ag effeithiau Storm Arwen, bu’n staff hefyd yn brysur yn graeanu a delio gyda’r tywydd oer dros y penwythnos.”

Mae dwy ysgol gynradd yn Wrecsam wedi’u cau ar ôl cael eu gadael heb bŵer na gwres yn sgil y storm.

Mae Ysgol yr Holl Saint ac Ysgol Bwlchgwyn wedi cael eu gorfodi i gau eu drysau am gyfnod amhenodol.

Yn y cyfamser, bydd gwaith atgyweirio brys angen cael ei wneud gan y Cyngor Conwy ar lwybr arfordirol Llanfairfechan – gan gostio £275,000.

Cannoedd o dai heb drydan

Mae cannoedd o dai yn parhau i fod heb drydan yn dilyn difrod.

Dywedodd Western Power Distribution, sy’n cyflenwi de a gorllewin Cymru gyda thrydan, fod y storm wedi effeithio ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin ac arfordir Ceredigion yn bennaf.

“Mae Storm Arwen wedi arwain at ddifrod sylweddol i’n rhwydwaith sy’n effeithio ar gyflenwadau i ardal eang a nifer fawr o gwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran Scottish Power Energy.

“Mae ein peirianwyr wedi bod yn gweithio i adfer pŵer i gynifer o gwsmeriaid â phosibl.

“Mae gennym beirianwyr ychwanegol allan heddiw yn asesu ac yn atgyweirio difrod i’r rhwydwaith.

“Oherwydd maint y difrod, rydym yn gwybod y bydd yr amser i adfer cyflenwadau yn hirach nag arfer, fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i adfer pob cwsmer mor gyflym a diogel â phosibl.

“Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.”

Ceredigion a Chaerfyrddin wedi’u heffeithio waethaf

Mae’n debyg mai Ceredigion a Chaerfyrddin gafodd eu heffeithio waethaf, gyda gwyntoedd wedi cyrraedd hyd at 80m.y.a. dros y penwythnos.

Mae ymgyrch lanhau enfawr wedi dechrau yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae tîm priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi delio â 150 o achosion o goed wedi cwympo – roedd llawer o’r rhain yn cynnwys sawl coeden a choed mawr – a 30 o ddigwyddiadau eraill yn ymwneud â’r tywydd mewn 24 awr yn unig,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.

“Mae’r tîm priffyrdd wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos mewn amodau anodd i glirio’r malurion ar ôl y storm a gafodd ei huwchraddio o rybudd melyn i rybudd ambr ar gyfer ymylon gorllewinol Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.

“Mae’r cyngor yn parhau i annog pobl i gymryd gofal ychwanegol ar y ffyrdd ac i gadw llygad am falurion tra bod ei griwiau a’i gontractwyr yn parhau â’r gwaith clirio.

“Bydd gwaith yn parhau’r wythnos hon gan roi blaenoriaeth i’r prif ffyrdd a gofynnir i bobl ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau, gan y bydd nifer o ddargyfeiriadau yn dal i fod ar waith.”

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mewn datganiad: “Mae swyddogion a thimau brys y Cyngor, gyda chymorth contractwyr lleol, wedi bod yn brysur iawn 24 awr y dydd drwy’r penwythnos yn delio â nifer o faterion yn gysylltiedig â’r tywydd, gan gynnwys coed sydd wedi cwympo.

“Roedd Storm Arwen, sef storm fawr gyntaf y gaeaf, yn cynnwys gwyntoedd cryfion a ddaeth o gyfeiriad anarferol i Geredigion.

“Yn ogystal â’r ymateb brys 24/7 hwn, fe wnaeth timau cynnal a chadw yn ystod y gaeaf y Cyngor gwblhau 13 o gamau gweithredu i raeanu/rhoi halen ar y ffyrdd oherwydd tywydd gwael gan gynnwys rhew ac eira a rhoi 330 tunnell o raean/halen ar rwydwaith graeanu’r Cyngor.”

‘Erchyll’

“Hoffwn ddiolch i’n staff a’n contractwyr sydd wedi gorfod gweithio yn yr amodau mwyaf erchyll a pheryglus,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros yr Amgylchedd.

“Mae’r gwaith clirio yn dasg enfawr a bydd gwaith yn parhau’r wythnos hon i sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio.

“Bydd rhai llwybrau’n cymryd mwy o amser i ailagor gan fod gofyn i gontractwyr arbenigol gael gwared ar rai o’r coed sydd wedi’u difrodi felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.

“Byddwn hefyd yn gofyn i bobol roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau ar-lein lle bynnag y bo modd gan fod ein canolfan gyswllt yn hynod o brysur.”

Canslo I’m a Celebrity am y trydydd tro

Yn y cyfamser, mae I’m a Celebrity… wedi cael ei chanslo am y trydydd tro yn olynol wrth i’r tîm cynhyrchu frysio i drwsio’r difrod a ddaeth o ganlyniad i Storm Arwen.

Ddydd Gwener (Tachwedd 26), cafodd y sioe ei chanslo am y tro cyntaf erioed ar ôl 19 mlynedd ar yr awyr.

Cafodd gweddill yr enwogion eu symud o gastell Gwrych dros y penwythnos tra bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y rhaglen yn gallu ailddechrau ar ôl problemau technegol oherwydd tywydd eithafol.

Mae adroddiadau bod y tîm cynhyrchu yn gweithio “rownd y rîl” i gael y sioe i’r safle lle mae modd ei darlledu eto.

Cadarnhaodd ITV y bydd yr enwogion yn dychwelyd i’r castell unwaith fydd y cynhyrchiad yn ddiogel i barhau, a bydd y sioe yn ailddechrau.

Rhagolygon tywydd dydd Llun

Rhagolwg y Swyddfa Dywydd ar gyfer Cymru ddydd Llun yw y bydd hi’n “oer a rhewllyd i ddechrau”.

Ond bydd hi’n “aros yn sych i raddau helaeth gydag ambell i gyfnod heulog yn y dwyrain”.

“Fodd bynnag, gallai cwmwl trwchus ddod â man glaw ymhellach i’r gorllewin.

“Tymheredd uchaf 9 °C.”

Storm Arwen yn gadael miloedd o gartrefi heb drydan

Fe fu oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac fe fu farw ci bach ar ôl i do adeilad gwympo