Mae Richie Pugh wedi cael ei benodi’n brif hyfforddwr timau saith bob ochr Undeb Rygbi Cymru, sy’n golygu y bydd yn gadael ei swydd yn hyfforddi gyda’r Gweilch.
Bydd cyn-flaenasgellwr Cymru’n hyfforddi timau’r dynion a’r merched, a bydd yn cael mwy o staff ac adnoddau er mwyn datblygu’r gêm.
Roedd Pugh yn rhan o dîm saith bob ochr Cymru a enillodd Gwpan Rygbi’r Byd yn 2009, a bu’n gweithio gyda’r tîm hyfforddi cyn ymuno â’r Gweilch yn 2019.
Bu’n hyfforddwr cynorthwyol gyda thîm merched saith bob ochr Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Rio hefyd.
Daeth tîm saith bob ochr dynion Cymru i ben dros dro fis Awst y llynedd yn sgil Covid, ond mae Undeb Rygbi Cymru’n dweud y bydd yn dychwelyd ar gyfer Cyfres Saith Bob Ochr y Byd HSBC ym mis Ionawr.
Mae trafodaethau ar y gweill eisoes gyd thri o chwaraewyr Cymru sydd wrthi’n chwarae gyda thîm GB ar hyn o bryd – Luke Treharne, Morgan Williams a Tom Williams – a gyda’r rhanbarthau yng Nghymru, yn y gobaith o ffurfio carfan erbyn dechrau’r flwyddyn.
‘Cyfle cyffrous’
Dywed Richie Pugh fod hwn yn “gyfle cyffrous”, ac nad oedd hi’n bosib iddo’i wrthod o ystyried ei “angerdd am rygbi saith bob ochr rhyngwladol”.
“Dw i’n credu bod rygbi saith bob ochr yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu chwaraewyr ar y cae ac oddi arno o ystyried y profiadau sydd ar gael dros y byd,” meddai.
“Dw i’n meddwl fy mod i wedi datblygu fel hyfforddwr ar ôl treulio dwy flynedd gyda’r Gweilch, fy rhanbarth cartref i.
“Mae’r profiad wedi fy herio, a dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r hyn dw i wedi’i ddysgu yn ein rhaglen saith bob ochr genedlaethol.
“Ar gyfer y dynion, bydd y pwyslais ar ailsefydlu’r rhaglen ar ôl cyfnod i ffwrdd yn sgil y pandemig a chylch y Gemau Olympaidd.
“Gyda rhaglen y menywod, y nod fydd ailddechrau’r rhaglen saith bob ochr a dod mor gystadleuol â phosib. Bydd hi’n gyffrous gweithio gydag athletwyr llawn amser gyda’r nod hirdymor o gystadlu yng Nghyfres y Byd.
“Yn y pen draw, rydyn ni eisiau sefydlu’r rhaglen lwybrau orau er mwyn helpu i ddatblygu chwaraewyr ifanc, rhoi’r profiad o fod ar lwyfan y byd iddyn nhw, ac adnabod a chefnogi’r rhai all fod yn chwaraewyr rhyngwladol yn y dyfodol – neu’n gystadleuwyr Olympaidd y dyfodol, fel Jasmine Joyce.”
‘Rhan allweddol o’n strategaeth’
Ychwanegodd Nigel Walker, cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, fod Richie Pugh yn “berffaith” i oruchwylio’r rhaglenni saith bob ochr ar gyfer y dynion a’r merched.
“Bydd rygbi saith bob ochr yn rhan allweddol o’n strategaeth ar gyfer gyrru safonau, gwella perfformiad yn y gêm, a chynrychioli Cymru ar lwyfan y byd,” meddai.
“Rydyn ni wrthi’n trafod â’n Rhanbarthau a chlybiau i adnabod chwaraewyr a fyddai’n elwa’n fawr, o ran eu perfformiad, wrth dreulio cyfnod yn cymryd rhan yn y rhaglen saith bob ochr.”