Mae Alex Horton, wicedwr ifanc tîm criced Morgannwg, yn edrych ymlaen at yr her o chwarae o dan amodau gwahanol i’r arfer yn Sri Lanca.

Mae’r chwaraewr 17 oed o Drecelyn yn aelod o garfan ifanc Llewod Lloegr sydd ar daith ar yr is-gyfandir, rhywle nad yw e wedi chwarae o’r blaen.

Bydd Lloegr yn herio Sri Lanca mewn cyfres o bum gêm undydd.

“Dw i wedi bod ar daith i Dde Affrica ddwywaith a Barbados unwaith, ond dyma fy nhro cyntaf ar yr is-gyfandir ac fe fydd y gwres yn cael effaith fawr arnom ni,” meddai.

“Fel grŵp, rydyn ni eisiau ennill y gyfres, gweld beth sy’n gweithio i ni a beth sydd ddim, ac asio fel tîm.

“Yn bersonol, dw i jyst eisiau adeiladu ar yr hyn wnes i yn yr haf pan es i allan a chwarae fy ngêm fy hun.

“Dw i eisiau gwthio fy hun mewn amodau mwy anodd i fesur sut beth fydd e yn y dyfodol wrth chwarae mewn llefydd lle mae’r amodau’n debyg.”

Paratoi at Gwpan y Byd

Mae’r daith i Sri Lanca yn rhan o baratoadau carfan Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd dan 19 yn y Caribî fis Ionawr.

Dylai’r wicedwr gael ei ddewis yn y tîm pe bai’n perfformio ar ei orau, ac mae’n dweud y byddai’n “wych” cael chwarae yng Nghwpan y Byd yn erbyn rhai o chwaraewyr gorau’r byd yn y categori oedran dan 19.

“Mae Cwpan y Byd yn ysgogiad mawr, ac mae e yn ein meddyliau ni oherwydd dydy Ionawr ddim yn bell i ffwrdd,” meddai.

“Rydyn ni eisiau mynd allan yno a rhoi cynnig da arni oherwydd rydyn ni’n hyderus iawn y gall y tîm wneud yn dda, er nad ydyn ni wedi trafod hynny ryw lawer eto.

“Byddai’n wych cael mynd i Gwpan y Byd fel y galla i fesur fy hun yn erbyn chwaraewyr o bob math i weld lle dw i’n sefyll.”

Cytundeb newydd a’r dyfodol gyda Morgannwg

Llofnododd Alex Horton gytundeb hirdymor newydd gyda Morgannwg y llynedd, ond dydy e ddim wedi chwarae i’r tîm cyntaf eto, gyda’r capten Chris Cooke a Tom Cullen o’i flaen.

Er ei fod e’n dweud iddo ddysgu cryn dipyn gan hyfforddwyr y sir, mae’n gobeithio datblygu ei sgiliau ymhellach gyda Llewod Lloegr dros y gaeaf er mwyn ceisio ennill ei le yn nhîm y sir y tymor nesaf.

“Mae’n rhaid i fi wneud yn dda a pharhau i wthio am fy lle yn y brif garfan,” meddai.

“Un o fy nodau mwyaf yw chwarae yn y tîm cyntaf hwnnw, felly mae hwn yn gyfle da iawn i fi fynd allan yno a dangos fy sgiliau.

“Dw i wrth fy modd yn yr amgylchfyd proffesiynol.

“Fe fu’n freuddwyd gen i ers tro cael chwarae criced yn broffesiynol a phan ges i’r cyfle hwnnw i lofnodi cytundeb, fe wnes i fachu arno.

“Maen nhw wedi bod yn dda iawn gyda fi, ac mae’n dda cael profi proffesiynoldeb y clwb, yn enwedig gyda Matthew Maynard [y prif hyfforddwr] a Mark Wallace [y cyfarwyddwr criced], sydd wedi fy helpu dipyn yn ifanc.

“Maen nhw wedi fy arwain i drwy flwyddyn gyntaf fy nghytundeb, ac mae wedi bod yn brofiad gwych cael bod gyda’r holl chwaraewyr yno, gan fanteisio ar feddyliau pobol fel Marnus [Labuschagne, batiwr Awstralia], David Lloyd a Hamish Rutherford.”

Disgwyl dyfodol disglair

Fis Awst y llynedd, dywedodd Jonathan Wellington, Ysgrifennydd Clwb Criced Trecelyn, wrth Golwg fod Alex Horton wedi denu sylw Hampshire cyn llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg.

Eisoes mae Alex Horton wedi chwarae i ail dîm Morgannwg ac i dîm Siroedd Llai Cymru, ac wedi ennill ysgoloriaeth Safon Uwch yn ysgol fonedd St. Edward’s yn Rhydychen. Ac fe fu’n chwarae i dîm cyntaf Trecelyn drwy gydol yr adeg honno.

“Mae Hampshire wedi bod â diddordeb gwirioneddol ynddo fe, ond mae’r ffordd mae Morgannwg wedi gofalu amdano fe’n wych,” meddai Jonathan Wellington, sy’n dweud y bydd y ffaith fod tri o gyn-wicedwyr Morgannwg ar y staff hyfforddi yno o fudd i Alex Horton.

Wicedwr ifanc disglair Morgannwg yng ngharfan Llewod Ifainc Lloegr

Bydd Alex Horton o Drecelyn yn teithio ar gyfer y gyfres undydd yn erbyn Sri Lanca

Y cricedwr ifanc “all fynd yn bell”

Alun Rhys Chivers

Wicedwr 16 oed wedi denu sylw Hampshire, cyn llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg
Alex Horton Morgannwg

Morgannwg yn rhoi cytundeb cyntaf i wicedwr 16 oed o Drecelyn

Alex Horton yn un o’r chwaraewyr ieuengaf yn hanes ail dîm Morgannwg