Mae Dominic Raab wedi amddiffyn y ffordd y gwnaeth fynd i’r afael â’r ymgyrch i helpu pobol i adael Affganistan dros yr haf.

Yn ôl un o gyn-weision sifil y Swyddfa Dramor, fe wnaeth Dominic Raab arwain ymgyrch “anhrefnus” a “mympwyol” pan oedd yn ysgrifennydd tramor yn San Steffan.

Mae Raphael Marshall wedi honni mai dim ond 5% o’r dinasyddion yn Affganistan, a wnaeth gais i ddianc dan raglen y Deyrnas Unedig, a dderbyniodd help.

Cafodd rhai eu llofruddio ar ôl cael eu gadael yn Kabul wedi i’r Taliban ddod i rym, meddai Raphael Marshall wrth roi tystiolaeth i bwyllgor dethol o Aelodau Seneddol.

Dywedodd Raphael Marshall wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Rhyngwladol mewn tystiolaeth ysgrifenedig mai dim ond fo oedd yn monitro’r mewnflwch ar gyfer yr e-byst yn gofyn am help ar un adeg.

“Anghywir”

Mae Dominic Raab, a gafodd ei symud o’r Swyddfa Dramor i fod yn Ysgrifennydd Cyfiawnder a Dirprwy Brif Weinidog wedi’r argyfwng, wedi ceisio amddiffyn ei hun rhag yr honiadau.

“Mae’n gamarweiniol mewn rhai ffyrdd, dydi’r awgrym bod swyddogion desg, ifanc yn gwneud penderfyniadau ddim yn gywir,” meddai Dominic Raab wrth raglen Today BBC Radio 4.

“Mae yna wahaniaeth rhwng prosesu a phenderfynu, felly mae gen i ofn nad ydw i’n derbyn hynny.

“Ar y pryd roedd yn cymryd sawl awr i wneud penderfyniad, dydyn ni ddim yn siarad am ddyddiau, dyw wythnosau ddim wedi cael ei awgrymu, ond sawl awr i wneud yn siŵr bod gennym ni’r ffeithiau, a bod penderfyniadau, rhyngof i, yr Ysgrifennydd Cartref a’r Ysgrifennydd Amddiffyn, yn cael eu gwneud a byddwn i’n awgrymu ei fod yn digwydd yn gymharol sydyn.”

Fe wnaeth Raphael Marshall honni fod y broses o ddewis pwy oedd yn gallu gadael Kabul yn “fympwyol a chamweithredol”, a bod miloedd o e-byst heb gael eu darllen.

Dywedodd fod cydweithwyr yn y Swyddfa Dramor yn “amlwg wedi dychryn gan ein proses anhrefnus”.

“Biwrocratiaeth dros ddynoliaeth”

Dywedodd Tom Tugendhat, yr Aelod Seneddol Torïaidd sy’n cadeirio’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Rhyngwladol, fod y “methiannau’n bradychu ein cyfeillion a’n cynghreiriaid, ac yn difetha degawdau o ymdrechion Prydeinig ac ymdrechion gan Nato.”

Darluniodd yr ymgyrch fel un oedd â “diffyg diddordeb,” ac un oedd yn “rhoi biwrocratiaeth dros ddynoliaeth”.

Mae’r Aelod Llafur Emily Thornberry, wedi dweud y dylai Dominic Raab ystyried ei safle yn y Cabinet o ystyried y dystiolaeth.

Dywedodd ei bod hi wedi’i “ffieiddio” gan y dystiolaeth, a’i bod “mewn sioc wirioneddol” wrth ei glywed.

“Mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos nad yw Dominic Raab yn gallu gwneud y mathau hyn o benderfyniadau y mae ein gwlad ni’n ei haeddu mewn unrhyw ffordd,” meddai Emily Thornberry wrth Sky News.