Mae rhai wedi awgrymu y dylai Cyngor Gwynedd symud y miliynau o bunnoedd sydd ganddyn nhw mewn cyfrifon banc Barclays i fanciau eraill.

Daw hyn ar ôl i’r banc gyhoeddi eu bod nhw’n cau eu canghennau yng Nghaernarfon a Phorthmadog ym mis Chwefror 2022 oherwydd gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid.

Mae’r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan wleidyddion a phobol leol, gyda chwsmeriaid nawr yn gorfod defnyddio canghennau ym Mangor, Pwllheli neu Ddolgellau.

Roedd y cwmni wedi achosi mwy o ddicter wythnos diwethaf, ar ôl gofyn i ddirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, Dafydd Meurig, i ail-bostio ei neges yn Saesneg ar Twitter.

‘Rhoi elw o flaen pobol’

Yn ystod cyfarfod llawn y cyngor wythnos diwethaf, fe wnaeth y Cynghorydd Nia Jeffreys awgrymu bod y Cyngor yn dargyfeirio eu harian oddi wrth Barclays fel protest am gau’r canghennau.

Cyhuddodd hi’r banc o “roi elw o flaen pobol” a “gadael strydoedd mawr lleol i lawr.”

“Mae Banc Cambria yn cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“A fyddai hynny’n gweithio fel syniad i ni yng Ngwynedd er mwyn cadw gwasanaethau’r stryd fawr?

“Hefyd, rwy’n deall fod Cyngor Gwynedd yn gwsmer Barclays. Felly gan fod y banc yn troi ei gefn ar bobol Gwynedd, ddylen ni ddim gwneud yr un peth a symud ein busnes i fanc arall?”

Banc Cambria

Cafodd Banc Cambria ei sefydlu yn ddiweddar fel cwmni cydweithredol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn darparu gwasanaeth bancio ar gyfer Cymru gyfan, sy’n cael ei reoli gan eu haelodau yn hytrach na chyfranddalwyr.

Gyda mwy o ganghennau Banc Cambria am gael eu hagor ledled Cymru, fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Thomas ddweud ei fod yn gefnogol o hynny, gan fod banciau rhyngwladol yn “gadael pobol i lawr”.

“Rwy’n gredwr mawr mewn gwneud pethau dros ein hunain yn ein gwlad ein hunain felly rydw i wrth fy modd yn clywed am Fanc Cambria ac yn mawr obeithio y bydd yn agor canghennau yn ein trefi,” meddai Gareth Thomas, yr aelod cabinet ar gyfer datblygiad economaidd.

“O ran Barclays, rwy’n deall ein bod yn gwsmer a byddwn yn trafod gyda deiliad y portffolio cyllid i weld os gallwn ni drosoli unrhyw bwysau, ond mae angen i’r awdurdod hwn hefyd ystyried trosglwyddo ein holl fusnes i fanc fel Cambria.”

Ymateb Barclays

Yn dilyn yr ymateb i gau’r canghennau, rhoddodd llefarydd ar ran banc Barclays ddatganiad yn egluro eu penderfyniad i gau yng Nghaernarfon a Phorthmadog yn sgil gostyngiad mewn cwsmeriaid.

“Dydy’r penderfyniad i gau cangen byth yn un hawdd,” meddai’r llefarydd.

“Fodd bynnag, mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn defnyddio dewisiadau amgen i ganghennau er mwyn bancio. O ganlyniad, rydyn ni’n gweld cwymp parhaus mewn ymweliadau canghennau ledled y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn gweithio gyda’n cwsmeriaid ac yn darparu opsiynau amgen i sicrhau y gallan nhw barhau i reoli eu harian a derbyn arbenigedd ariannol yn ôl yr angen.”