Fe wnaeth nifer y marwolaethau Covid-19 wythnosol yng Nghymru ostwng yn y saith niwrnod hyd at 26 Tachwedd.

Cafodd 77 o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru yn ystod yr wythnos honno, gostyngiad o 8.3% o gymharu â’r wythnos flaenorol, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd Covid-19 yn gyfrifol am 9.9% o’r 776 marwolaeth a gafodd eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 26 Tachwedd.

Er hynny, roedd cyfanswm y marwolaethau 18.8% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Ers dechrau’r pandemig, mae 6,638 yn fwy o bobol wedi marw yng Nghymru o gymharu â’r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Dros Gymru a Lloegr, bu gostyngiad o 14% yn nifer y marwolaethau a oedd yn crybwyll Covid yn yr wythnos hyd at 26 Tachwedd o gymharu â’r wythnos flaenorol, gyda 817 o farwolaethau – y cyfanswm isaf ers 22 Hydref.

Yn yr wythnos yn gorffen 26 Tachwedd, roedd nifer y marwolaethau mewn cartrefi preifat dros y ddw wlad 34.6% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd, a 6% yn uwch mewn ysbytai.

Ond, roedd 2.1% yn is mewn ysbytai, a 2.4% yn is mewn lleoliadau eraill.

Gwynedd sydd a’r gyfradd uchaf o Covid-19 yng Nghymru yn dal i fod, gyda 842 achos i bob 100,000 person yn y saith niwrnod hyd at 6 Rhagfyr.

Ynys Môn sydd â’r gyfradd uchaf-ond-un yng Nghymru, sef 734.0, cynnydd o 624.6 ers yr wythnos flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw eu bod nhw am gynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd Ionawr, wrth i’r rhaglen gyflymu yn sgil pryderon am amrywiolyn Omicron.

Erbyn hyn, mae pedwar achos o Omicron wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru, tri ohonyn nhw’n gysylltiedig â theithio rhyngwladol, a’r llall yn destun ymchwiliad.

Mae’r pedwar achos yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Profion Covid-19, y coronafeirws

Cyfraddau Covid-19 diweddaraf ardaloedd awdurdod lleol Cymru

Gwynedd sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru o hyd, ac mae’r sir yn drydedd o holl ardaloedd awdurdod lleol y Deyrnas Unedig.