Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau tri achos arall o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru.

Mae’r tri achos yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Yn ôl Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Gwarchod Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae dau o’r achosion yn ymwneud â theithio, ac mae’r llall yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Mae’n golygu bod pedwar achos wedi’u canfod yng Nghymru hyd yn hyn.

“Fel rydyn ni wedi dweud o’r blaen, mae disgwyl cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru,” meddai.