Mae Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, yn credu mai “gwallgofrwydd pur” yw cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi stop ar 2,000 o “linellau cyffuriau sirol”.
Ymdrech yw hyn i gael gwared ar gyffuriau anghyfreithlon.
Bydd £300m yn mynd tuag at strategaeth ddeng mlynedd, a bydd yr heddlu’n canolbwyntio ar dorri cyflenwadau cyffuriau dosbarth A sy’n cael eu dosbarthu gan gangiau cyffuriau mewn dinasoedd i ardaloedd cyfagos.
Bydd cynnydd mewn buddsoddi tuag at gynlluniau adfer hefyd, meddai Llywodraeth San Steffan, mewn ymdrech i dorri’r cylch o ddibyniaeth a throseddu dro ar ôl tro.
Mesurau
Mae’r mesurau sy’n rhan o’r strategaeth yn cynnwys profi mwy o bobol am gyffuriau wrth iddyn nhw gael eu harestio, ac annog yr heddlu i gyfeirio unigolion sy’n profi’n bositif tuag at driniaeth neu gyrsiau ymwybyddiaeth.
Gallai gynnwys sancsiynau troseddol ar gyfer y rhai sy’n parhau i ddefnyddio cyffuriau.
Bydd gan farnwyr y grym i orchymyn bod troseddwyr sy’n cwblhau dedfrydau cymunedol am droseddau’n ymwneud â chyffuriau’n cael eu profi, ac mae’n bosib y bydden nhw’n mynd i’r carchar pe baen nhw’n profi’n bositif.
Pan fydd cyflenwyr yn cael eu harestio, bydd yr heddlu’n cael cymryd eu ffonau a’u defnyddio nhw i yrru negeseuon at gleientiaid yn eu hannog i beidio defnyddio cyffuriau a’u cyfeirio nhw at gefnogaeth.
‘Gwallgofrwydd pur’
“Gwallgofrwydd pur ydi gwneud yr un peth drosodd a throsodd a disgwyl cael canlyniad gwahanol, a dyna yn union mae’r Llywodraeth yn ei wneud,” meddai Arfon Jones wrth golwg360.
“Mae hi ddigon hawdd tynnu lawr county lines, plant a phobol ifanc ydyn nhw, ond dwyt ti ddim yn ymateb i’r galw.
“Felly os wyt ti’n tynnu’r cyflwenwad oddi yno, a dyna ydi county lines, mae’r galw am y cyffuriau yn dal i fod yno.
“Mae yno rywun yn mynd i lenwi’r gwacter yna o fewn oriau o lwyddiant yr heddlu, ac fel arfer mae yno gystadleuaeth i lenwi’r gwacter yna rhwng grwpiau gwahanol.
“Ers i’r rhyfel ar gyffuriau ddechrau yn y wlad yma, mae defnydd cyffuriau wedi codi 200%, mae yno fwy o bobol mewn carchardai, mwy o lofruddiaethau a marwolaethau ynghlwm â chyffuriau.
“Dw i’n meddwl mai rhyw stunt ydi hwn, mae’r Llywodraeth wedi colli’r plot, maen nhw’n gwybod beth sydd ei angen ond dydyn nhw ddim eisiau ei wneud o.”
‘Buddsoddi mewn gwasanaethau plant ac ieuenctid’
Beth fyddai Arfon Jones yn ei wneud gyda’r £300,000 mae’r Llywodraeth am ei wario, felly?
“Un peth faswn i’n ei wneud ydi ailfuddsoddi mewn gwasanaethau plant ac ieuenctid ar draws Cymru a Lloegr i wneud yn siŵr fod plant a phobol ifanc ddim yn cael eu tynnu mewn i droseddu,” meddai.
“Peth arall fyswn i’n ei wneud fyddai rheoleiddio cyffuriau fel heroin fel bod doctoriaid yn gallu presgreibio i bobol sy’n gaeth fel bod nhw ddim yn gorfod defnyddio heroin ar y stryd gan mai’r unig beth mae hynna yn ei wneud yn cefnogi’r farchnad droseddol.
“Byddai hynny hefyd yn golygu ei bod nhw ddim yn gorfod cyflawni troseddau i allu fforddio prynu’r cyffuriau yma.
“I fi, mi fasa hynny yn “win win” y ddwy ffordd, ond dydy’r Llywodraeth yma ddim yn gallu gweld yn bellach na’u trwynau, neu efallai eu bod nhw’n gallu ond ei fod o ddim yn ffitio’u ideoleg.”