Mae rhieni plentyn a gafodd ei eni’n gynamserol wedi codi cannoedd o bunnoedd i ysbyty a roddodd ofal hanfodol iddo.

Llwyddodd Stephanie a Sion Evans i godi £525 i’r Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili, yn ogystal ag elusen Bliss, sy’n codi arian i fabanod newydd-anedig sydd ag anawsterau.

Cafodd eu mab Elgan ei eni yn gynnar ym mis Medi 2020, a rhoddodd yr ysbyty yng Nghaerfyrddin ofal allweddol iddo yn y cyfnod hwn.

‘Cefnogaeth wych’

Fe wnaeth y cwpl o Aberaeron gymryd rhan yn her yr elusen Go the Distance a beicio 100 milltir o amgylch ffyrdd yr ardal ac mewn campfa leol yn ystod mis Medi eleni.

“Rydyn ni wedi dewis Ysbyty Glangwili a Bliss gan fod ein mab Elgan wedi ei eni’n gynamserol ac angen gofal newydd-anedig brys am gyfnod estynedig yn Ysbyty Glangwili,” meddai Stephanie Evans.

“Derbyniodd Elgan, finnau a fy ngŵr wybodaeth a chefnogaeth wych gan Bliss a gofal rhagorol gan dîm newydd-anedig Glangwili.

“Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd ac a roddodd yn y gymuned leol.”

Uned babanod newydd

Bydd uned newydd ar gyfer gofal arbennig babanod yn agor yn Ysbyty Glangwili yn y flwyddyn newydd.

Diolchodd aelodau o staff yr ysbyty, Abigail Jones a Louise Hughes, y rhieni am godi’r arian.

“Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i Stephanie a Sion am y rhodd i’r Uned Gofal Arbennig Babanod,” medden nhw.

“Mae’n arbennig o deimladwy wrth i’r rhodd gyrraedd ar Ddiwrnod Babanod Cynamserol y Byd.

“Bydd y rhodd yn ein helpu i ddarparu offer a gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y babanod a’u teuluoedd sy’n dod trwy’r uned i wneud yr amser maen nhw’n ei dreulio yn yr ysbyty yn fwy cyfforddus.”