Andy John, Esgob Bangor, yw Archesgob newydd Cymru.

Cafodd ei ethol heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 6) i olynu John Davies, oedd wedi ymddeol ym mis Mai ar ôl pedair blynedd yn y swydd.

Fe yw 14eg Archesgob Cymru, a daw ei benodiad ar ôl iddo fod yn Esgob Bangor ers 13 o flynyddoedd.

Sicrhaodd e ddau draean o’r bleidlais o blith aelodau’r Coleg Etholiadol ar ddiwrnod cynta’r cyfarfod yn Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandrindod.

Cafodd ei benodiad ei gyhoeddi wrth ddrws yr eglwys, ac fe fydd yn cael ei dderbyn i’r swydd yn ffurfiol yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant.

Bydd e hefyd yn parhau’n Esgob Bangor.

‘Wynebu heriau gyda gras Duw’

“Wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol, rydym yn gwynebu llawer o heriau, ond nid ydym yn gwneud hynny ar ein pen ein hunain,” meddai mewn datganiad.

“Rydym yn wynebu’r heriau gyda gras Duw a gyda’n gilydd, oherwydd gyda’n gilydd rydym yn gymaint cryfach a chymaint yn well.

“Rwy’n hyderus y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gallu ymateb ag egni a gweledigaeth. Mae’n fraint enfawr i fi wasanaethu ein Heglwys i’r perwyl hwn.”

Croesawodd Archddiacon Meirionnydd, Andrew Jones, y newyddion ar ran Esgobaeth Bangor.

“Ar ran Esgobaeth Bangor, rwyf am longyfarch Esgob Andy ar ei ethol yn Archesgob Cymru nesaf,” meddai.

“Mae ei arweinyddiaeth yn Esgobaeth Bangor ers 2009 wedi bod yn rhagorol ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

“Mae wedi llywio’r esgobaeth drwy gyfnodau anhysbys ac wedi gwneud hynny gyda gofal, tosturi ac eglurder.

“Dyma fraint fawr i ni fel Esgobaeth.

“Trydydd Esgob Bangor i ddod yn Archesgob Cymru yn y ganrif ddiwethaf bydd Esgob Andy – GO Williams ar ddiwedd y 70au/80au a Charles Green yn y 30au. Gadawodd y ddau farc sylweddol ar hanes ein Heglwys ac rwyf yn sicr y bydd Esgob Andy yn Archesgob eithriadol yn yr un modd, a fydd yn arwain ein Heglwys yn strategol, yn ddiwyd ac yn fugeiliol.

“Fel Esgobaeth rydym yn gweddïo dros Esgob Andy a’i deulu, yn gofyn iddo gael ei fendithio yn ei weinidogaeth a’i arweinyddiaeth newydd.”

Ai menyw fydd Archesgob nesaf Cymru?

Bydd drysau Eglwys y Drindod Sanctaidd ar glo am hyd at dridiau pan fydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd tu mewn i ddewis 14eg Archesgob Cymru