Dyma ddiweddariad dydd Llun o gyfraddau Covid-19 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Ragfyr 2, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 naill ai mewn profion labordai neu brofion llif ochrol cyflym.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Rhagfyr 3-6) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Gwynedd ac Ynys Môn

Gwynedd sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru o hyd, ac mae’r sir yn drydedd o holl ardaloedd awdurdod lleol y Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, mae’r gyfradd yno i lawr ychydig, o 846.8 i 842.0, gyda 1,054 o achosion newydd.

Ynys Môn sydd â’r gyfradd uchaf-ond-un yng Nghymru, sef 734.0, i fyny o 624.6 yr wythnos flaenorol.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 2; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 2; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 25; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 25.

Gwynedd, 842.0, (1054), 846.8, (1060)

Ynys Môn, 734.0, (517), 624.6, (440)

Pen-y-bont ar Ogwr, 595.1, (878), 441.2, (651)

Sir Benfro, 594.1, (753), 529.4, (671)

Bro Morgannwg, 583.9, (790), 662.3, (896)

Wrecsam, 552.7, (752), 498.3, (678)

Sir y Fflint, 520.3, (816), 483.3, (758)

Blaenau Gwent, 508.4, (356), 411.3, (288)

Casnewydd, 497.3, (778), 450.0, (704)

Caerdydd, 490.0, (1809), 477.5, (1763)

Sir Fynwy, 472.9, (450), 459.2, (437)

Torfaen, 471.4, (447), 478.7, (454)

Caerffili, 466.1, (847), 438.6, (797)

Powys, 443.5, (590), 432.2, (575)

Sir Ddinbych, 438.6, (424), 428.3, (414)

Merthyr Tudful, 412.1, (249), 461.7, (279)

Abertawe, 412.1, (1016), 391.8, (966)

Sir Gaerfyrddin, 409.3, (778), 459.8, (874)

Rhondda Cynon Taf, 400.6, (969), 392.8, (950)

Castell-nedd Port Talbot, 371.9, (537), 366.4, (529)

Conwy, 364.7, (431), 418.8, (495)

Ceredigion, 249.7, (182), 237.3, (173)

Omicron

Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau tri achos arall o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru.

Mae’r tri achos yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Yn ôl Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Gwarchod Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae dau o’r achosion yn ymwneud â theithio, ac mae’r llall yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Mae’n golygu bod pedwar achos wedi’u canfod yng Nghymru hyd yn hyn.

“Fel rydyn ni wedi dweud o’r blaen, mae disgwyl cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru,” meddai.

Tri achos arall o’r amrywiolyn Omicron yng Nghymru

Mae’r tri yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro – dau ohonyn nhw’n ymwneud â theithio a’r llall yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd