Mae dyn wnaeth geisio llofruddio ei bartner pan geisiodd hi ddirwyn eu perthynas i ben, wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd.

Fe wnaeth Stephen Gibbs, 45, ymosod ar Emma Brown, a oedd yn gariad iddo ers 11 mlynedd ac wedi ennill y loteri, yn eu cartref yn y Barri fis Ionawr eleni.

Roedd perthynas y ddau wedi dirywio ar ôl iddi ennill miliynau o bunnoedd ar y Loteri Genedlaethol yn 2017.

Dechreuodd Stephen Gibbs reoli ei bartner wedi hynny, ac ar ôl yr ymosodiad, daeth i’r amlwg ei fod wedi gosod dyfais tracio ar ei char.

Fe wnaeth y diffynnydd wadu yn wreiddiol ei fod e wedi ceisio ei llofruddio, ond newidiodd ei ble ar ddiwrnod cyntaf yr achos ym mis Medi.

Roedd Stephen Gibbs wedi bod yn y carchar am chwe blynedd yn y gorffennol, am drywanu mab 11 oed ei gyn-bartner chwe gwaith.

Yr achos

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful, dywedodd yr erlynydd Ieuan Bennett fod y ddau wedi dechrau perthynas yn 2010.

“Fe wnaeth deinamig y berthynas newid yn barhaol yn 2017 pan fuodd hi’n ddigon lwcus i ennill y Loteri Genedlaethol, ac ennill swm sylweddol o arian,” meddai.

“Mae hi’n ymddangos bod gan y diffynnydd fwy o broblem fod ganddi reolaeth dros ei bywyd ei hun.

“Roedd ganddi freuddwydion am deithio’r byd ond gan nad oedd y diffynnydd yn hoffi teithio dramor, ni chafodd hi fyth wireddu’r breuddwydion hynny, ac mae’n siŵr bod hynny wedi achosi peth trafferthion yn y berthynas.”

Clywodd y llys fod Emma Brown, 49 ar y pryd, yn berchen ar y tŷ yr oedd hi a Stephen Gibbs yn byw ynddo, yn ogystal â bod yn berchen ar eiddo eraill yn yr ardal.

Dywedodd yr erlynydd fod Stephen Gibbs wedi bod yn gynyddol paranoid am berthynas Emma Brown â hen ffrind ysgol a oedd yn denant yn un o’i thai, a’i fod wedi bygwth torri gwddw’r dyn hwnnw unwaith.

Ar noson yr ymosodiad, roedd Emma Brown wedi gyrru i dŷ ei glanhawr i ddanfon cerdyn pen-blwydd, gan ddychwelyd am 8yh, ond fe wnaeth y diffynnydd ei chyhuddo hi o fod yn ymweld â’r hen ffrind ysgol.

Dyna pryd y dywedodd Emma Brown wrtho fod y berthynas drosodd, a chollodd ei dymer a’i dal hi’n erbyn wal.

Roedd Emma Brown yn cofio ei fod wedi’i thagu hi, ei llusgo hi tu allan, a dychwelyd gyda chyllell fawr o’r gegin.

Fe wnaeth e fygwth torri ei wddw ei hun i ddechrau, cyn ei thrywanu hi saith gwaith yn ei hwyneb.

Anafiadau a’r diffynnydd yn dianc

Daeth cymydog o hyd i Emma Brown yn gorwedd mewn pwll o waed, a ffoniodd ambiwlans.

Fe wnaeth hi ddioddef sawl briw i’w hwyneb, dydi hi ddim yn teimlo llawer yn ei hwyneb nawr, ac mae hi wedi colli ei golwg yn ei llygad dde yn rhannol.

Fe wnaeth Stephen Gibbs ddianc yn ei gar, a ffonio ffrind gan ddweud wrthi ei fod e “wedi gwneud rhywbeth gwirion”, a’i fod e “wedi trywanu Emma – fe wnes i ffeindio allan ei bod hi wedi bod yn cyboli efo rhywun, twyllo arna i – fe wnes i golli hi a’i thrywanu hi yn ei hwyneb”.

Dywedodd wrthi ei fod wedi cymryd lot o dabledi a’i fod yn teimlo’n gysglyd, gan ychwanegu: “Dw i’n meddwl fy mod i wedi ei lladd hi.”

‘Difetha hunanhyder’

Mewn datganiad, dywedodd Emma Brown ei bod hi wedi colli llawer iawn o hyder wedi’r digwyddiad, a’i bod hi’n cael trafferth cymdeithasu.

“Mae e wedi difetha fy hunanhyder yn llwyr, a dw i’n amau fy hun oherwydd fy mod i wedi ymddiried ynddo.

“Roedden ni efo’n gilydd am flynyddoedd, ac allai ddim credu ei fod wedi llwyddo i’m twyllo i, doeddwn i byth yn meddwl y byddai e’n gwneud rhywbeth fel hyn, ond fe wnaeth e ac allai ddim hyd yn oed ystyried agor fyny ac ymddiried unrhyw un arall.”

Ffactorau gwaethygol

Wrth ei garcharu am ddeunaw mlynedd, dywedodd y barnwr Richard Twomlow fod gan y drosedd hon nifer o ffactorau gwaethygol – “bod yng nghartref y dioddefwr, y ffaith eich bod chi wedi gadael hi yno a gyrru i ffwrdd, a’ch cyhuddiadau blaenorol am ymddygiad tebyg”.

“Dw i hefyd o’r farn bod perygl difrifol i chi achosi niwed pellach oherwydd y cyhuddiadau blaenorol tebyg yn eich erbyn,” meddai.