Mae Arlywydd Catalwnia yn dweud bod Cyfansoddiad Sbaen yn “hynafol”, ac nad oes unrhyw beth i’w ddathlu, 38 mlynedd ers i Ragfyr 6 gael ei ddynodi’n Ŵyl Banc.

Mae’n nodi’r dyddiad y cafodd refferendwm ei gynnal yn 1978 i droi Sbaen yn frenhiniaeth seneddol yn dilyn marwolaeth yr unben Francisco Franco.

“Yr unig beth mae’n ei wneud yw atgyfnerthu safbwyntiau o blaid annibyniaeth,” meddai mewn anerchiad yn nhref La Bisbal de L’Empordà, i’r de o Girona.

Mae pleidiau o blaid annibyniaeth a nifer o bobol eraill wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Cyfansoddiad yn cyfeirio at “bobol dan anfantais gorfforol, synwyryddol a meddyliol” yn hytrach na “phobol a chanddynt anableddau”.

Ond mae’r llywodraeth dan y lach am na fydd modd newid y geiriau hyn yn Erthygl 49 heb gefnogaeth Plaid y Bobol a Vox.

Does dim ystyriaeth yn cael ei rhoi chwaith i imiwnedd brenhinoedd a chyn-frenhinoedd, y flaenoriaeth i ddynion o fewn y teulu brenhinol na thiriogaethau.

Roedd Plaid y Bobol wedi bod yn wrthwynebus i unrhyw newidiadau, gan ddweud nad yw’r “amodau’n briodol” i “adnewyddu a moderneiddio” testun y Cyfansoddiad mewn modd sy’n parchu ei “ysbryd” gwreiddiol.

Yn sgil hyn, doedd pleidiau Esquerra Republicana na Junts per Catalunya, CUP, EH Bildu o Wlad y Basg, BNG o Galicia, na sawl plaid araill ddim wedi mynd i ddigwyddiad yn dathlu’r Cyfansoddiad, a hynny ar ôl iddyn nhw lofnodi maniffesto yn ddiweddar yn galw am Sbaen aml-wladwriaeth a’r hawl i hunanlywodraeth.

‘Cyfansoddiad i’n gwlad ni ein hunain’

“Heddiw, yn fwy nag erioed, dylem gofio fod angen Cyfansoddiad arnom ar gyfer ein gwlad ein hunain,” meddai Pere Aragones.

Yn ôl Laura Borràs, Llefarydd Senedd Catalwnia o blaid Junts, roedd y Cyfansoddiad yn “gytundeb â Francoistiaeth fyw, a deugain mlynedd yn ddiweddarach, profwyd ei fod yn ddiwerth”.

Ond mae Pedro Sanchez, Arlywydd Sbaen, yn dadlau bod y Cyfansoddiad yn sicrhau “hawliau, rhyddid, cytgord, cyd-fyw ac aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd”, gan osgoi trafod y ffrae ynghylch diwygio’r Cyfansoddiad.

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Salvador Illa, pennaeth cangen Catalwnia o’r Blaid Sosialaidd, sy’n galw ar bobol i weld y Cyfansoddiad fel “ymrwymiad democrataidd cyffredin”.