Mae Heddlu Dyfed-Powys ymysg pedwar llu yn y Deyrnas Unedig sy’n treialu gwasanaeth ar-lein newydd i roi gwybod am ymosodiadau rhyw.

Cafodd gwasanaeth newydd i riportio troseddau rhyw ar-lein ei lansio ar wefannau Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Swydd Gaerlŷr yr wythnos ddiwethaf.

Fel arfer, mae gofyn i bobol sydd eisiau adrodd am droseddau rhyw alw’r heddlu, anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain, neu alw 999 mewn argyfwng.

Ond o dan y cynllun newydd, bydd pobol – waeth beth yw eu hoedran neu os ydyn nhw am adrodd am y drosedd – yn cael eu cyfeirio ar-lein drwy wefan yr heddlu lleol, oni bai bod angen cymorth uniongyrchol yr heddlu arnyn nhw.

Bydd cyngor a manylion am elusennau a sefydliadau eraill sy’n medru helpu yno, ac os yw’r unigolyn yn fodlon, bydd yr heddluoedd yn gofyn am fanylion am yr hyn sydd wedi digwydd.

Mae dewis yno i roi gwybod am y drosedd yn ddienw. Os caiff y drosedd ei hadrodd yn ddienw, fydd yr heddlu ddim ond yn cysylltu â’r unigolyn hwnnw os oes lle i gredu bod bygythiad uniongyrchol i’w fywyd.

‘Atal troseddau pellach’

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah White o Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod nhw’n gwybod “yn sgil ymchwil helaeth, fod nifer o resymau pam nad yw goroeswyr a thystion yn gyfforddus wrth roi gwybod i’r heddlu am droseddau rhyw”.

“Un o’r ffactorau cyffredin o hyd yw’r amharodrwydd i ddarparu manylion personol,” meddai Sarah White.

“Rydym yn deall hyn ac wedi bod yn edrych ar sut y gallwn annog mwy o bobol i adrodd am droseddau rhyw. Gall hyn ein helpu i atal troseddau pellach a dwyn troseddwyr i gyfiawnder.

“Mae pob adroddiad yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni. Os nad yw pobol yn gyfforddus i gyflwyno’r adroddiad hwnnw, rydym am iddynt wybod sut y gallant gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.

“Nid yn unig y mae’r gwasanaeth newydd hwn yn arloesol o ran y ffordd y mae wedi’i gynllunio – o lawr gwlad mewn ymgynghoriad â dros 40 sefydliad (gan gynnwys Argyfwng Trais, Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod, a’r Ymddiriedolaeth Goroeswyr) – ac o ran y ffordd mae’n cael ei gyflwyno – ar-lein, lle mae mwy a mwy o bobol yn mynd am gymorth, yn arbennig pobol iau.”

‘Llwybr arall i ddioddefwyr’

Wrth ymweld â gwefannau’r heddluoedd, mae modd i bobol adrodd am drosedd ryw eu hunain, ar ran rywun arall, neu fel tyst.

Gall pobol ddewis adrodd yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac os bydd y cynllun peilot yn un llwyddiannus, bydd yn dod yn ddull adrodd parhaol, ac fe fydd ar gael i heddluoedd eraill ei fabwysiadu yng Nghymru ac yn Lloegr hefyd.

Dywed y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler o Heddlu Dyfed-Powys fod y gallu i adrodd am drosedd ryw ar-lein yn “cynnig llwybr arall i ddioddefwyr ddod ymlaen”.

“Fel sefydliad sydd ag achrediad Rhuban Gwyn, sydd wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, mae amddiffyn pobol sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a gwyddwn pa mor drawmatig yw dioddef trosedd rywiol,” meddai Jayne Butler.

“Rydym yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau o’r fath fel y medrwn ymchwilio’n drylwyr i’r troseddau, ac ar yr un pryd, sicrhau bod pob dioddefydd yn cael y cyfle i gael ei gyfeirio ar gyfer cymorth arbenigol.

“Bydd y gallu i adrodd am drosedd rywiol ar-lein yn cynnig llwybr arall i ddioddefwyr ddod ymlaen fel y medrwn eu helpu nhw a dwyn troseddwyr i gyfiawnder.”