Mae sector breifat Cymru’n waeth nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig o ran ymchwil, datblygu ac arloesi, yn ôl adroddiad newydd.
Fe nododd yr ymchwil gan Ysgol Fusnes Caerdydd fod hyn yn un o’r ffactorau y tu ôl i gynhyrchiant isel y wlad, wrth iddi fynd i’r afael â heriau Brexit a Covid-19.
Yn 2019, Cymru oedd yr ail wlad isaf yn y Deyrnas Unedig o ran cynhyrchiant – sy’n mesur faint o arian mae pob gweithiwr yn ei gynhyrchu o’r gwaith maen nhw’n eu gwneud.
Bryd hynny, roedd yn sefyll ar 84.1% o gyfanswm cynhyrchiant y Deyrnas Unedig, yr isaf heblaw am Ogledd Iwerddon.
Gan ddefnyddio data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth yr adroddiad ddangos bod bwlch sgiliau, sector breifat lai a diffyg buddsoddi ariannol hefyd wedi arwain at weithgarwch isel, yn ogystal â sgil effeithiau cau pyllau glo a gweithiau metel yn y 1980au.
‘Pryder mawr’
Prif awdur yr ymchwil yw’r Athro Andrew Henley o’r Ysgol Fusnes, sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd, ac mae e hefyd yn cydlynu Fforwm Cynhyrchiant Cymru, sy’n cynnwys rhai o brif ffigyrau diwydiant, ymchwil a pholisi.
“Er ein bod yn gweld heriau tebyg mewn cynhyrchiant ledled y Deyrnas Unedig, mae’r darlun yma yng Nghymru yn bryder mawr,” meddai.
“Mae’r data’n dangos bod y bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig wedi aros yn llydan am dros ddegawd rhwng 2008 a 2019.
“Mae hyn er gwaethaf tair rhaglen gymorth gan Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.”
Datrysiadau
Wrth drafod yr heriau, mae’r Athro Andrew Henley yn dweud “na fydd hyn yn gallu cael ei ddatrys dros nos,” ond fod llunio polisïau pwrpasol yn bwysig.
Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod rôl Banc Datblygu Cymru, a gafodd ei sefydlu yn 2017, wrth ddarparu cyllid i fusnesau bach er mwyn ysgogi datblygu ac arloesi.
“Yn hytrach, mae angen mesurau strategol hirdymor i weld twf mewn cynhyrchiant yng Nghymru,” meddai.
“Un fantais sylweddol sydd gennym ni yw ein gallu i lunio polisïau, sydd wedi bod yn uchelgeisiol iawn yn ddiweddar.
“Ac er nad cynhyrchiant yw amcan deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) o reidrwydd, gall fod yn fodd i gyflawni nodau llesiant y Ddeddf o ran ffyniant, gwydnwch, cynwysoldeb a datblygiadau sero-net cynaliadwy os yw Cymru’n buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a thechnolegau yn y dyfodol.”