Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall wrth i ddwy brifysgol ddatblygu partneriaeth newydd.

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n ymrwymo i drosglwyddo’r rhaglen feddygol gyfredol i gwricwlwm annibynnol newydd yn 2026.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y byddan nhw’n gweithio i sefydlu ysgol feddygol lawn ac annibynnol yng ngogledd Cymru.

Ers 2019, mae Prifysgol Bangor wedi cynnig cwrs meddygaeth israddedig ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, gyda lle i 20 myfyriwr ar y rhaglen.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ym mis Medi y bydd niferoedd ar y cwrs hwnnw’n cynyddu i 25 eleni, ac yna i 40 erbyn y flwyddyn academaidd nesaf, fel bod mwy o fyfyrwyr meddygol yn gallu treulio eu holl gyfnod hyfforddi yn y gogledd.

‘Creu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr meddygol’

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen amlasiantaethol sy’n canolbwyntio ar sefydlu’r ysgol feddygol yn y gogledd.

“Mae’n wych gweld gweithio ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd i greu dull Cymru gyfan o ymdrin ag addysg feddygol,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl a bydd y cydweithrediad hwn yn ein helpu i gyflawni hynny a chreu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr meddygol gael eu haddysgu a’u hyfforddi yng Ngogledd Cymru.”

Partneriaeth

Yn raddol dros y bum mlynedd nesaf, bydd y ddwy brifysgol yn cydweithio â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol i sicrhau bod y cwricwlwm presennol yn trosglwyddo i fod yn gwricwlwm annibynnol sy’n cael ei ddarparu gan Brifysgol Bangor o 2026 ymlaen.

“Rydym yn falch iawn o gael gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Iwan Davies.

“Gydag angen cynyddol i ddarparu system iechyd, gofal a lles integredig yng Ngogledd Cymru mae symud tuag at sefydlu ysgol feddygol yn hanfodol.

“Bydd hyn yn galluogi hyfforddi rhagor o weithwyr meddygol ac iechyd proffesiynol ledled Gogledd Cymru a Phowys i sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar lefelau gwasanaeth yn y Gwasanaeth Iechyd a darparu amgylchedd cynhwysfawr ar gyfer addysgu, dysgu a chapasiti lleoliadau dwyieithog ar draws ein cymunedau.”

‘Edrych ymlaen at gydweithio ymhellach’

Ychwanegodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae’r cytundeb hwn yn nodi cam newydd sydd i’w groesawu yn ein partneriaeth hynod lwyddiannus â Phrifysgol Bangor.

“Mae’n ffurfio rhan o’n hymdrechion parhaus i sicrhau bod myfyrwyr meddygol sy’n dewis astudio yng Nghymru yn cael cyfle i hyfforddi a gwasanaethu mewn cymunedau ledled y wlad.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda’n cydweithwyr ym Mangor ar y dull newydd cyffrous hwn o ddarparu addysg feddygol yng Nghymru.”

Gogledd Cymru “gam yn nes” at weld ysgol feddygol lawn yn cael ei sefydlu

Y Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu holl gyfnod hyfforddi yn y gogledd

Cwrs Meddygaeth yn cael ei gyflwyno ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi

Daeth cadarnhad bod y rhaglen hyfforddiant yn mynd yn ei blaen