Mae’r Aelod Seneddol Llafur Harriet Harman wedi cyhoeddi na fydd hi’n sefyll yn ei sedd Camberwell a Peckham yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dywedodd y cyn-weinidog, sydd wedi cael ei chanmol gan arweinydd Llafur Syr Keir Starmer fel “hyrwyddwr dros fenywod a chyfiawnder cymdeithasol”, ei bod yn bwriadu camu’n ôl ar ôl bron i 40 mlynedd yn y Senedd.

Mae Harriet Harman, 71, yn cael ei hadnabod fel “Mam y Tŷ” ar ôl ymuno â Thŷ’r Cyffredin am y tro cyntaf fel Aelod Seneddol sedd De Llundain yn 1982.

“Rwy’n teimlo y gallaf adael Tŷ’r Cyffredin nawr, yn hyderus bod Llafur yn cryfhau o dan arweinyddiaeth Keir Starmer a’r tîm newydd y mae wedi’i benodi,” meddai mewn e-bost at etholwyr.

“Mae wedi bod yn anrhydedd enfawr i fod yn Aelod Seneddol gan gynrychioli a gweithio i bobl Camberwell a Peckham ers bron i 40 mlynedd.”

‘Colled fawr ar ei hôl’

Dywedodd Syr Keir Starmer fod Harriet Harman wedi “paratoi’r ffordd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

“Harriet, mae eich ymrwymiad i’r Blaid Lafur a Camberwell a Peckham am bron i 40 mlynedd yn rhyfeddol,” meddai.

“Yn hyrwyddwr ar gyfer menywod a chyfiawnder cymdeithasol, rydych chi wedi paratoi’r ffordd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chi, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i wneud hynny am gyfnod eto.”

Bu Harriet Harman yn arweinydd Llafur dros dro yn 2015 ac yn ddirprwy arweinydd Llafur rhwng 2007 a 2015, ac mae hi wedi dal nifer o rolau cabinet a chabinet cysgodol.

“Dysgodd Harriet gymaint i mi fel fy mhennaeth gwleidyddol cyntaf ac roedd yn ddirprwy wych,” meddai Ed Miliband, a arweiniodd y blaid gyda Harriet Harman yn ddirprwy iddo rhwng 2010 a 2015.

“Mae hi wedi cyflawni cymaint â bydd colled fawr ar ei hôl yn Nhŷ’r Cyffredin.”

‘Mwy i’w wneud o hyd’

Yn dilyn buddugoliaeth Tony Blair yn etholiad 1997, daeth Harriet Harman yn ysgrifennydd gwladol dros ddiogelwch cymdeithasol a’r gweinidog dros fenywod cyntaf.

“Fe wnes i ymuno â Thŷ’r Cyffredin fel un o ddim ond 11 Aelod Seneddol benywaidd Llafur mewn senedd oedd yn 97% o ddynion,” meddai Harriet Harman yn ei neges e-bost.

“Erbyn hyn, mae 104 o fenywod Llafur ac ar draws yr holl bleidiau mae yno ganran llawer iawn uwch o fenywod.

“Ond mae llawer mwy i’w wneud o hyd nes bod menywod yn rhannu grym gwleidyddol gyda dynion ar delerau cyfartal a nes bod menywod yn y wlad hon yn gyfartal.

“Byddaf yn gadael Tŷ’r Cyffredin gyda fy ffeministiaeth, fy nghred yn Llafur a’m brwdfrydedd dros wleidyddiaeth yr un mor gadarn ac erioed.”