Does “dim amser i’w wastraffu” wrth ddarparu brechlynnau atgyfnerthu i bobol yng Nghymru, meddai Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Mae disgwyl i’r don o achosion Omicron gyrraedd ei brig yng Nghymru ddiwedd mis Ionawr, felly dyna pam fod cymaint o frys i roi brechlynnau atgyfnerthu i bawb, meddai Eluned Morgan.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 7), dywedodd mai’r “anrheg Nadolig gorau i chi a’ch teulu” yw’r brechlyn.
Er mai dim ond pedwar achos o’r amrywiolyn Omicron sydd wedi’u canfod yng Nghymru hyd yn hyn, mae disgwyl i’r achosion gynyddu’n sydyn, meddai Eluned Morgan.
Dywedodd fod y dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos bod yr amrywiolyn newydd yn symud yn sydyn, ac “nad yw amser ar ein hochor”.
Brechlynnau atgyfnerthu
Er mwyn cyflymu’r rhaglen frechu, bydd 200,000 o apwyntiadau yn cael eu cynnig yr wythnos, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyrraedd 1.3m o bobol ychwanegol yn yr wythnosau nesaf.
Bydd byrddau iechyd yn cyflymu’r brechu drwy ddarparu mwy o ganolfannau brechu mewn lleoliadau sy’n hawdd i’w cyrraedd, gan gynnwys clinigau brechu galw i mewn a thrwy ffenestr y car.
Ynghyd â hynny, bydd meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i roi brechiadau a bydd llywodraeth leol, gwasanaethau tân, gwirfoddolwyr a myfyrwyr yn darparu cymorth i glinigau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gymorth gan y lluoedd arfog hefyd.
Dylai pobol aros am wahoddiad cyn mynd am frechlyn, ond mae gofyn i bobol sydd dros 65 oed gysylltu â’u Bwrdd Iechyd os nad ydyn nhw wedi cael apwyntiad erbyn hyn.
Roedd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yn rhan o’r gynhadledd hefyd, a dywedodd fod gan Gymru ddigon o frechlynnau Pfizer a Moderna er mwyn cwblhau’r dasg.
Bydd hi’n “dasg Hercwleaidd”, meddai Eluned Morgan.
‘Byth rhy hwyr’
Wrth bwysleisio pwysigrwydd cael eich brechu, boed yn frechlyn atgyfnerthu neu’r cyntaf a’r ail, dywedodd Eluned Morgan nad ydi hi “byth rhy hwyr i gael eich brechu”.
“Does dim gwahaniaeth os taw hwn fydd eich brechiad cyntaf neu eich brechiad atgyfnerthu, ewch i gael eich brechu,” meddai.
“A pheidiwch ag anghofio – os na fuoch chi i’ch apwyntiad yn gynharach yn y flwyddyn, dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.
“Yn ystod y 12 mis diwethaf, brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau rhag y feirws.
“Maen nhw wedi arbed bywydau ac wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng yr haint a salwch difrifol, ac atal miloedd rhag gorfod cael triniaeth ysbyty.
“Dros yr wythnosau nesaf, rhowch flaenoriaeth i gael eich brechiad neu’ch brechiad atgyfnerthu.
“Dyma’r anrheg Nadolig gorau i chi a’ch teulu eleni.”
Omicron a’r brechlyn
Dydi hi ddim yn amlwg eto a yw Omicron yn achosi salwch mwy difrifol nag amrywiolyn Delta, sef yr amrywiolyn sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion ar hyn o bryd.
Dywedodd Dr Gill Richardson fod achosion yn Ne Affrica, lle cafodd Omicron ei adnabod gyntaf, yn dyblu bob pum niwrnod, a’i fod yn “lledaenu’n sydyn”.
Ychwanegodd Eluned Morgan fod derbyniadau i ysbytai yno wedi cynyddu o tua 143 i 788 mewn pythefnos, ond nad oedd hi’n gwybod a fydd hynny’n batrwm a fydd yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru.
“Nid ydym yn gwybod pa mor sâl mae’r amrywiolyn hwn yn eich gwneud chi,” meddai.
“Nid ydym yn gwybod i ba raddau y bydd brechlynnau yn ein hamddiffyn ond rydym yn credu y byddant yn rhoi llawer mwy inni na chael dim brechlyn o gwbl.
“Felly dyna pam mai ein ple heddiw yw i’n helpu ni yn y sefyllfa hon.
“Mae gennym ni fyddin yn barod i gyflwyno’r rhaglen frechu hon, ond mae angen i’r cyhoedd ddod gyda ni.
“Rydyn ni angen i chi gamu i fyny a chamu ymlaen pan fyddwch chi’n cael eich galw.”
Dydi’r un o’r pedwar person sydd wedi’u heintio gan amrywiolyn Omicron yng Nghymru wedi gorfod mynd i’r ysbyty, yn ôl dealltwriaeth Eluned Morgan, ond dywedodd ei bod hi’n well “bod yn ofalus”.
“Rydyn ni’n amlwg angen cadw llygaid ar y sefyllfa wrth i’r sefyllfa ddatblygu dros y byd.
“Mae gwaith ymchwilio sylweddol ar y gweill ar y funud i ddeall sut mae’r brechlynnau’n amddiffyn pobol.
“Tra ein bod ni mewn sefyllfa lle dydyn ni wir ddim yn gwybod, mae’n well i ni fod yn ofalus.
“Mae ein Llywodraeth ni’n paratoi am y gwaethaf, ond yn gobeithio am y gorau.”
Bydd adolygiad tair wythnos Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yr wythnos hon, a chyhoeddiad ddydd Gwener gan Mark Drakeford ynghylch unrhyw newidiadau posib i fesurau Covid.
‘Flow before you go’
Mae gweinidogion wedi bod yn ystyried ymestyn y pasys Covid ar gyfer bwytai a thafarndai, ac mae gweinidogion yn cadw llygad ar sefyllfa ysgolion, meddai Eluned Morgan.
Mae un ysgol yng Ngheredigion wedi gorfod cau heddiw yn sgil achosion ymysg disgyblion a staff, ac fe wnaeth arweinydd Cyngor Gwynedd, lle mae’r cyfraddau ar eu huchaf yng Nghymru, alw am gau ysgolion wythnos ynghynt ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Dr Gill Richardson ei bod hi’n annog pobol i ymddwyn yn ofalus, a chymryd prawf llif unffordd cyn cyfarfod mewn grwpiau mawr, neu cyn mynd i ymweld â pherthnasau hŷn neu agored i niwed.
“Flow before you go”, yw’r motto newydd, meddai Eluned Morgan, gan gyfeirio at y profion llif unffordd.
Dydi Llywodraeth Cymru ddim yn ystyried gwahardd pobol sydd heb gael eu brechu rhag ymweld â lleoliadau megis siopau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol a chaffis ac ati, fel sydd wedi digwydd mewn rhai gwledydd yn Ewrop.
“Ond mae e’n llwyr o fewn budd y bobol hynny i ddeall, os nad ydyn nhw wedi cael eu brechu yna mae’r siawns iddyn nhw gael eu derbyn i’r ysbyty yn cynyddu’n sylweddol petae nhw’n dal y feirws,” meddai Eluned Morgan.
“Mae hyn o fewn eu budd eu hunain.”
“Brechlynnau yw’r allwedd”
Wrth ymateb, dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn “falch” bod y brechlynnau atgyfnerthu am gael eu darparu’n sydyn.
“Dw i’n falch bod y Gweinidog wedi gwrando ar ein galwadau i ddarparu’r brechlynnau atgyfnerthu yn sydyn o’r diwedd, ac ailddefnyddio ein byddin o wirfoddolwyr, a hyd yn oed cyflwyno canolfannau galw mewn, canolfannau y gwnaeth hi alw’n rhai sy’n rhoi rhwydd hynt i bawb alw heibio ychydig ddyddiau’n ôl,” meddai.
“Fodd bynnag, mae adroddiadau ei bod hi’n bosib y bydd pasbortau brechu yn cael eu hymestyn i fusnesau lletygarwch yn ergyd i un o’r sectorau sydd wedi’u heffeithio waethaf gan y pandemig.
“Maen nhw’n aneffeithiol, gwrth-fusnes, a does dim tystiolaeth tu ôl iddyn nhw o gwbl.
“Brechlynnau yw’r allwedd i gymdeithas allu byw gyda coronafeirws, a diolch i raglen gaffael y Llywodraeth Dorïaidd, mae’r wlad yn barod fel ei bod hi’n gallu amddiffyn ei hun rhag Covid am flynyddoedd i ddod.
“Hyn, nid rhagor o fesurau dinistriol, yw’r ateb.
“Er mwyn atal yr angen am gyfyngiadau pellach, dylai’r Llywodraeth Lafur weithredu ar weddill ein galwadau: apwyntio gweinidog brechlynnau, cyflwyno hybiau llawdriniaethau rhanbarthol i fynd i’r afael ag ôl-groniad mewn rhestrau aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ymrwymo i gadw ysgolion ar agor, a chael gwared ar basbortau brechu.”