Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau y bydd Ysgol Dyffryn Cledlyn yn Dre-fach yng Ngheredigion yn cau dros dro yn dilyn lefelau uchel o Covid-19 ymhlith disgyblion a staff.

O heddiw ymlaen (dydd Mawrth, 7 Rhagfyr), bydd mwyafrif y disgyblion yn mynychu dosbarthiadau yn rhithiol.

Bydd disgyblion sy’n ddibynnol ar yr ysgol, fel plant gweithwyr allweddol, yn parhau i allu mynychu’r safle er gwaethaf y cyfyngiadau.

Mae’r Cyngor nawr yn annog rhieni i fod yn ymwybodol o holl symptomau Covid-19, rhag ofn i unrhyw achos godi ar ôl cau’r ysgol.

Maen nhw hefyd yn awgrymu y dylid cymryd prawf er mwyn lleihau lledaeniad y firws ymysg teuluoedd a’r gymuned.

Yn yr ardal ehangach – sef Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad – mae’r achosion yn gymharol isel, gyda dim ond 291.2 o bob 100,000 o’r boblogaeth wedi dal y firws yn y saith diwrnod hyd at 1 Rhagfyr.

Cafodd Ysgol Dyffryn Cledlyn ei hagor yn 2017, ar ôl i dair ysgol gyfagos uno, sef Ysgol Cwrtnewydd, Ysgol Llanwnnen, ac Ysgol Llanwenog.

Mae hi felly’n gwasanaethu ardal eithaf eang, gydag o gwmpas 120 o ddisgyblion yn cael eu haddysg yno.