Mae dynes wedi cael ei charcharu am o leiaf 16 mlynedd am lofruddio dyn 31 oed yn ei fflat yng Nghei Connah.

Cafwyd Emma Berry, 47, a oedd yn byw yn y Quay House yng Nghei Connah, yn euog o drywanu Dean Bennett fis Mai.

Fe wnaeth Emma Berry ei drywanu yn ei galon ar ôl ei weld yn ffraeo gyda’i bartner.

Yn ôl tystion, dywedodd Emma Berry ei bod hi “am ei drywanu”, cyn mynd i’r gegin gymunedol yn y fflatiau i ’nôl cyllell.

Cafodd Dean Bennett ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Lerpwl, ond bu farw yno.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod y ddau yn byw yn yr un adeilad, a oedd yn cynnwys ystafelloedd gwely gyda rhai fflatiau cymunedol.

Roedd partner Emma Berry wedi ymosod arni y bore hwnnw, ac wedi ymosod ar bartner Dean Bennett.

Clywodd y llys ei bod hi’n ddibynnol ar alcohol, ac wedi bod yn yfed ar ddiwrnod y llofruddiaeth.

Dywedodd wrth yr heddlu ei bod hi wedi’i dychryn wrth weld Dean Bennett yn ffraeo gyda’i bartner, ac nad oedd hi eisiau i’r un peth ddigwydd i’r ferch ifanc honno ag oedd wedi digwydd iddi hi.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrthi ei bod hi wedi “estyn am gyllell a’i drywanu” ar ôl dadl “nad oedd yn cynnwys trais corfforol nac yn eich cynnwys chi”, a rhoddodd ddedfryd o garchar am oes iddi.

Fe wnaeth ei gweithredoedd achosi “trallod” i deulu Dean Bennett, meddai’r barnwr, a dywedodd ei bod hi’n amlwg ei bod hi’n “unigolyn peryglus”.

Logo'r heddlu yn erbyn cefndir du

Enwi dyn fu farw yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghei Connah

Dean Michael Bennett, dyn 31 oed o’r ardal, wedi’i drywanu