Mae Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru yng Nglantwymyn ym Mhowys, yn dweud ei bod hi’n “hawdd anghofio” am ardaloedd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr wrth drafod ail gartrefi.

Fe fu’n siarad â golwg360 ar ôl i’r rhaglen Any Questions ar Radio 4 gael ei darlledu o Lanandras yr wythnos hon, gydag Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, ar y panel.

Fe dynnodd Elwyn Vaughan sylw at blacard y tu allan i’r eglwys lle cafodd y rhaglen ei recordio oedd yn dweud “Welsh Government do something about second home owners. Local people need housing”, ac mae’n dweud ei fod yn gobeithio bod y rhaglen wedi bod yn gyfle i “roi llais” i bobol leol.

Mae’n dweud bod prisiau tai yn Llanandras yn “echrydus achos bod o’n le braf i fyw ynddo fo”.

“Mae o’n hwylus i Lwydlo a Henffordd hefyd, ac felly mae o’n ddeniadol iawn, iawn i bobol o ganolbarth Lloegr yn arbennig sydd eisiau rhywle braf i fyw ond hefyd mynediad hwylus i drefi dros y ffin,” meddai.

“Mae yna dai braf iawn yno, mae o’n lle godidog.

“Hwylustod ydi o’n fwy na dim achos dwi’n gwybod am bobol sy’n byw yno ac yn gweithio yn Henffordd neu yn Llwydlo, felly mynediad ydi un peth.”

Yr un heriau ym mhob man

Mae ail gartrefi wedi cael cryn sylw mewn ardaloedd fel Pen Llŷn ac Ynys Môn, lle mae trwch y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Ond yn ôl Elwyn Vaughan, mae ardaloedd Cymraeg a di-Gymraeg ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn wynebu’r un heriau.

Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd 9.3% o boblogaeth Llanandras (y boblogaeth dros dair oed) yn siarad Cymraeg.

Dyma’r ffigurau am y pentrefi eraill dan sylw: Trefyclo (8.5%), Llanfyllin (34.1%), cymuned Banw (55.6%).

Yn gynharach eleni, roedd ffigurau yn dangos bod pris cyfartalog tai yng Nghymru wedi codi i £185,431 ym mis Mawrth – cynnydd 11% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Hefyd mae ffigurau yn dangos mai £206,656 yw pris cyfartalog tŷ ym Mhowys bellach.

“Dwi’n meddwl weithiau’i fod o’n hawdd iawn i ni anghofio hynny, a bod yr un un sialensau ac felly bod yr un un atebion eu hangen, boed nhw yn yr hyn sy’n cael ei alw y Gymru Gymraeg neu yn y Gymru ddi-Gymraeg,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn, iawn ein bod ni’n cario’r cymunedau hynny efo ni, ac mae hynny’n bwynt gwleidyddol wrth gwrs, a’n bod ni’n creu llais unedig o gwmpas y sialensau sy’n bodoli efo tai.”

Cytundeb cydweithio

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru am gyfnod o dair blynedd yn ystod y Senedd hon, mae yna ymrwymiad gan y ddwy blaid i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.

Wrth groesawu’r cytundeb cydweithio hwnnw fel “cam mawr ymlaen”, mae gan Elwyn Vaughan syniadau pendant ynghylch sut y dylid mynd ati i ddatrys problem ail gartrefi yng Nghymru, ac yn enwedig ar hyd y ffin â Lloegr.

“Mae eisiau capiau mewn cymunedau, mae eisiau hawl cynllunio yn arbennig i’w trosi nhw o fod yn annedd-dai i fod yn dai gwyliau,” meddai

“AirBnBs wedyn, yn bendant mae eisiau mwy o reolaeth ar hynny, ond hefyd yn wleidyddol, mae eisiau amlygu ac ymgyrchu yn y cymunedau hynny, dim jyst yn y gorllewin.

“O wneud hynny, efallai y byddan nhw’n cael mwy o gonsensws gwleidyddol, cenedlaethol o gynnwys y cymunedau hynny yn rhan o’r frwydr.

“Dwi’n hollol gefnogol i’r cytundeb hynny.

“Mi oedd o’n ddiddorol iawn, iawn ar Radio 4 fod Adam Price ar y llwyfan ac mi gododd y cwestiwn o ran y cytundeb a’r berthynas o ran symud ymlaen.

“Mi darodd rywun pa mor gynnes oedd y gefnogaeth i’r cytundeb achos dw i yn meddwl bod pobol yn y llefydd hynny yn teimlo eu bod nhw’n cael eu hanghofio yn aml iawn, ac mae hyn gobeithio yn gyfle i roi llais i’w pryderon.”

Elwyn Vaughan

Nid problem i Gymry Cymraeg yn unig mo’r argyfwng tai, yn ôl cynghorydd o Bowys

Iolo Jones

Elwyn Vaughan yn siarad â golwg360 am y sefyllfa ym Mhowys