Mae un o Aelodau’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi’i henwi ar restr y BBC o 100 o fenywod mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig y byd eleni.
Natasha Asghar, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, yw’r Aelod o’r Senedd benywaidd cyntaf o leiafrif ethnig ar ôl iddi gael ei hethol ym mis Mai.
Mae hi’n ferch i’r diweddar Mohammad Asghar, gwleidydd a gynrychiolodd yr un sedd a’r un blaid.
Dywedodd Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth a thechnoleg ei phlaid, ei bod hi’n “fraint anferthol” cael ei henwi ar y rhestr “ochr yn ochr â rhai menywod hynod dalentog ac arloesol sydd wedi cyflawni pethau gwych yn eu safleoedd”.
“Dw i wedi cael fy llethu gyda negeseuon a chefnogaeth ers i’r rhestr gael ei datgelu, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu,” meddai.
“Mae’n fraint anferth, ac mae’n anrhydedd cael fy nghynnwys ar restr mor fawreddog.
“Fodd bynnag, dyw fy ngwaith ddim drosodd. Dw i eisiau ysbrydoli pawb o bob llwybr bywyd a chefndir i ddod ynghlwm â gwleidyddiaeth, a byddaf yn gweithio’n ddiflino i helpu eraill i ddilyn fy ôl troed a dod yn rhan o’r byd gwleidyddol.”
‘Byth yn stopio’
Wrth ei llongyfarch, dywedodd Andrew RT Davies, sydd wedi dychwelyd i’r Senedd ar ôl cyfnod i ffwrdd er mwyn canolbwyntio ar ei les a’i iechyd, ei bod hi wedi dangos ei bod hi’n Aelod o’r Senedd “arbennig yn barod” sy’n “ychwanegu gwerth mawr i’r Senedd ac i’r Ceidwadwyr Cymreig”.
“Os nad ydi hi yn y Siambr yn dal y Llywodraeth Lafur yn atebol, mae hi allan yn ei rhanbarth yn cwrdd ag etholwyr ac yn trio’u helpu nhw,” meddai.
“Dyw hi byth yn stopio.
“Mae cael ei dyfarnu o fewn y 100 menyw mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig dros y byd yn llwyddiant anhygoel, ac mae hi’n ei haeddu’n llawn.
“Dw i’n gwybod y bydd ei theulu’n falch eithriadol, a bydd ei diweddar dad, Oscar, yn edrych i lawr â balchder.
“Llongyfarchiadau, Natasha, gennym ni i gyd yn y Ceidwadwyr Cymreig.”
Y rhestr
Mae’r rhestr eleni hefyd yn cynnwys Soma Sara, sylfaenydd Everyone’s Invited, gwefan sy’n blatfform i oroeswyr troseddau rhyw gael rhannu eu profiadau’n ddienw.
Mae’r dystiolaeth ar y wefan yn cyfeirio at sefydliadau addysg dros y byd, gan gynnwys 90 o ysgolion yng Nghymru.
Ymysg rhai o’r menywod eraill mae Malala Yousafzai; prif weinidog benywaidd cyntaf Samoa, Fiamē Naomi Mata’afa; yr actores Rebel Wilson; a’r awdur Chimamanda Ngozi Adichie o Nigeria.
Menywod o Affganistan yw hanner y rhai ar y rhestr eleni. Roedd dyfodiad y Taliban i rym yno ym mis Awst yn golygu bod bywydau miliynau o ferched wedi newid, gan gynnwys eu hawliau i gael addysg a gweithio.
Mae’r rhestr eleni yn cydnabod eu dewrder a’u llwyddiannau wrth orfod ailsefydlu eu bywydau.