Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwriad i gyflwyno “pecyn uchelgeisiol” o ddiwygiadau i dreth y cyngor er mwyn gwneud y system yn “decach”.
Bydd hwn yn un o’r mesurau cyntaf i gael eu cyflwyno yn dilyn y cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru.
Ymhlith yr opsiynau sydd dan ystyriaeth mae ailwerthuso, a fyddai’n ceisio sicrhau bod pob eiddo’n cwympo o fewn band treth sy’n adlewyrchu’r farchnad eiddo.
Mae’n bosib y gallai gwerth hyd at 1.5m o gartrefi gael ei ailasesu, a gallai bandiau gael eu cynnwys at dop neu waelod y raddfa i adlewyrchu cyfoeth aelwydydd a gallu pobol i dalu’r dreth.
“Dydyn ni ddim wedi cael ailwerthusiad yng Nghymru ers 2003,” meddai Rebecca Evans.
“Ond mewn gwirionedd, rydyn ni mewn lle gwell na llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig lle dydyn nhw ddim wedi cael ailwerthusiad ers 1991.
“Diben diwygio treth y cyngor yw newid natur sylfaen treth y cyngor, yma yng Nghymru, fel bod y rhai sy’n gallu talu mwy yn gwneud hynny, a dydy’r rhai sy’n methu talu ddim yn gorfod talu swm sy’n gam yn ôl – yn nhermau cyfran berthynnol incwm eu haelwyd maen nhw’n ei gwario yn y pen draw ar dreth y cyngor.
“Mae’n anochel y bydd peth newid yn nhermau atebolrwydd aelwydydd unigol.
“Ond yr hyn dw i eisiau edrych arno yw sicrhau ein bod ni’n archwilio’r trefniadau symudol, fel nad oes sioc fawr i unigolion neu aelwydydd unigol.”
Dywed na fydd y newid yn digwydd ar unwaith.
Adolygiad
Mae adolygiad o’r Cynllun Lleihau Treth y Cyngor, a gwerthusiad o ddisgownt, diystyru, eithriadau a phremiwm hefyd wedi cael ei gynnig, a bydd ymgynghoriad yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Dywed y Llywodraeth eu bod nhw hefyd am archwilio syniadau hirdymor a mwy radical, gan gynnwys cyflwyno treth ar werth tir lleol (LVT) i ddisodli’r trethi lleol presennol.
“Rydyn ni wedi bod yn ceisio, dros dymor diwetha’r Senedd, i wneud treth y cyngor yn decach drwy wneud pethau llai gyda’r system bresennol sydd gennym,” meddai Rebecca Evans wedyn.
“Er enghraifft, rydyn ni wedi dileu atebolrwydd am dreth y cyngor oddi ar bobol sy’n gadael gofal hyd at 25 oed, i geisio eu helpu nhw i gael y dechrau gorau posib fel oedolion.
“Ac rydyn ni wedi dileu’r gosb o gyfnod o garchar ar gyfer pobol nad ydyn nhw’n talu treth y cyngor, oherwydd ni ddylai ei chael hi’n anodd na phrofi tlodi fod yn drosedd.
“Dydy llawer o bobol ar hyn o bryd ddim yn sylweddoli y gallen nhw fod yn gymwys ar gyfer cymorth gyda threth y cyngor.
“Rydyn ni’n gwybod fod amgylchiadau llawer o bobol wedi newid dros gyfnod y pandemig.
“Felly gallai hyn fod yn adeg i ailasesu a ydych chi’n cael popeth y mae hawl gyda chi ei gael.”
‘Biliau uwch’
Wrth ymateb, dywed Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig, na all pobol gael eu cosbi eto.
“Y tro diwethaf i ailwerthusiad ddigwydd yng Nghymru, cafodd un ym mhob tri theulu eu colbio gan filiau uwch,” meddai.
“Ac wrth i ni adfer o heriau’r pandemig, all hynny ddim digwydd eto, yn syml iawn.”