Mae Tesco wedi cytuno i ailagor trafodaethau gyda gweithwyr sy’n aelodau o undeb Usdaw, yn dilyn pleidlais ganddyn nhw i streicio yn dilyn ffrae am gyflogau.

Ymhlith y naw canolfan mae dwy ym Magwyr.

Mae’r undeb wedi croesawu ymrwymiad yr archfarchnad i gynnal trafodaethau o’r newydd.

Roedd disgwyl i’r streic gael ei chynnal rhwng Rhagfyr 20 a Noswyl Nadolig, a dydy hi ddim yn glir eto a fydd hi’n dal yn mynd rhagddi.

Mae’r ddwy ffrae yn ymwneud â mwy na 5,000 o aelodau Usdaw ym Magwyr, Daventry, Goole, Hinckley, Lichfield, Livingston, Peterborough a Southampton.

Roedd gyrwyr a gweithwyr warws wedi gwrthod codiad cyflog blynyddol o 4%, ac mae Usdaw yn galw ar y cwmni i wella’r cynnig er mwyn osgoi anghyfleustra cyn y Nadolig.

Ymateb Usdaw

“Rydym yn croesawu cynnig Tesco o ragor o drafodaethau, a fydd yn dechrau yfory, a byddwn yn ymgysylltu mewn modd positif er mwyn ceisio datrysiad i’r anghydfod hwn,” meddai Joanne McGuinness, Swyddog Cenedlaethol Usdaw.

“Ateb terfynol yw gweithredu’n ddiwydiannol bob tro i’n haelodau.

“Rydym yn gobeithio’n fawr y gall trafodaethau o’r newydd arwain at gynnig derbyniol gan y busnes er mwyn osgoi prinder stoc posib mewn siopau yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig.”