Mae Mark Drakeford wedi rhybuddio bod Cymru ar drothwy “moment arall a allai fod yn beryglus” cyn “ton aruthrol” o achosion Omicron.

Dim ond pum achos sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi’n sylweddol, gyda niferoedd yn cyrraedd uchafbwynt erbyn diwedd mis Ionawr.

Hyd yn hyn, mae pob achos o Omicron yng Nghymru wedi’u canfod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Wrth siarad ar lawr y Siambr, fe ddywedodd fod angen “paratoi ein hunain ar gyfer y potensial o don aruthrol o heintiau newydd yn y flwyddyn newydd, ymhen chwe wythnos, os na allwn arafu lledaeniad yr amrywiolyn newydd hwn”.

Brechlyn

Mae Cymru wedi cyhoeddi y bydd pob oedolyn yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd y mis.

Fe rybuddiodd y Prif Weinidog hefyd y dylai pawb sicrhau eu bod wedi eu brechu er mwyn sicrhau diogelwch eraill dros y Nadolig.

“Dyma’r anrheg Nadolig gorau y gallwch ei rhoi i chi’ch hun a’ch teulu eleni, ac nid yw’n rhy ddramatig i ddweud ei fod yn fuddsoddiad i sicrhau eich bod yma ar gyfer Nadolig iach a hapus y flwyddyn nesaf hefyd,” meddai.

Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi ei adolygiad diweddaraf o’r cyfyngiadau coronafeirws ddydd Gwener (Rhagfyr 10).

Yn ôl Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, fe fydd yr Alban yn adolygu’r cyfyngiadau’n dyddiol.

Daeth ei sylwadau yn y Senedd yn dilyn cynhadledd Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, i’r wasg nad oedd yn sôn am gyflwyno cyfyngiadau Covid llymach.

Dydy’r Llywodraeth Cymru heb gyflwyno unrhyw gyfyngiadau newydd eto mewn ymateb i’r amrywiolyn newydd, ond fe rybuddiodd nad oedd modd roi “sicrwydd ar hynny” gan fod y Llywodraeth yn parhau “i ddysgu am y sefyllfa.”

Awgrymodd y dylai pobol gymryd profion llif unffordd cyn cwrdd â ffrindiau dros y Nadolig.

Dywedodd nad yw’n gwybod eto pa mor sâl y gallai’r amrywiolyn Omicron wneud i bobol deimlo.

De Affrica

Roedd derbyniadau i’r ysbyty yn Ne Affrica wedi codi o tua 143 i 788 mewn pythefnos, meddai.

“Dydyn ni ddim yn gwybod os yw hynny’n batrwm y bydden ni’n ei weld yn cael ei adlewyrchu yn ein poblogaeth,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn gwybod i ba raddau y bydd brechlynnau’n rhoi amddiffyniad i ni ond rydyn ni’n credu y byddan nhw’n rhoi llawer mwy i ni na chael dim brechlyn o gwbl. Felly dyna pam mae ein ple heddiw yn ein helpu yn y sefyllfa yma,” meddai Eluned Morgan.

Bydd penderfyniad ynghylch ymestyn pasys Covid ar gyfer tafarndai a bwytai ar y “funud olaf”, yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Eisoes mae angen pasys ar gyfer sinemâu, theatrau, clybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru

Yn ôl Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, “mae’r posibilrwydd o ymestyn pasbortau brechlyn i’r sector lletygarwch yn ergyd bellach i un o sectorau’r pandemig yr effeithiwyd arnynt waethaf.”

Dywed Plaid Cymru y dylai gweinidogion seilio unrhyw benderfyniadau ynghylch cyfyngiadau newydd ar y dystiolaeth ddiweddaraf am effaith Omicron.

“Dim amser i’w wastraffu” wrth roi brechlynnau atgyfnerthu

Disgwyl i’r don o achosion Omicron gyrraedd ei brig yng Nghymru ddiwedd mis Ionawr, meddai Eluned Morgan, sy’n dweud “nad yw amser ar ein hochor”