Mae cynghorydd sir yn Wrecsam yn hyderus o ennill statws Dinas Diwylliant 2025, gan ddatgan, “Mi wnawn ni ennill”.
Mae Hugh Jones, sy’n aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam, wedi cyflwyno’r cais er mwyn cael symud i gam nesa’r broses a chynnal blwyddyn o weithgareddau diwylliannol.
Fis Hydref, roedd Wrecsam ymhlith wyth o lefydd yn y Deyrnas Unedig oedd yn cystadlu am y statws, yr unig le yng Nghymru sydd yn y ras.
Wrecsam yw’r cyd-ffefrynnau erbyn hyn i ennill, ac mae’r cais wedi cael ei gymeradwyo’n helaeth gan uwch gynghorwyr yn dilyn cyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 7).
Yn ôl Hugh Jones, mae’r dinasoedd sydd wedi ennill y statws yn y gorffennol wedi elwa o rai miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, gan greu swyddi a denu miloedd o ymwelwyr.
“Mae’n gyfle cyffrous iawn ac yn gyfle unigryw i sir gyfan Wrecsam gael y statws hwn,” meddai.
“Os edrychwn ni ar yr adroddiad, gallwn ni weld y wobr sydd ar gael pan welwch chi’r buddiannau mae’r dinasoedd hynny sydd wedi ennill Dinas Diwylliant wedi’u cael.
“Yn Hull, er enghraifft, roedd £219m o fuddsoddiad a 800 o swyddi ar draws y gymuned gyfan.
“Yn Coventry, roedd £15m o arian grantiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a £100m mewn buddsoddiadau cyfalaf.”
Cefnogaeth a phryderon
“Mae gynnon ni dasg anodd o’n blaenau, ond mae gynnon ni’r adnoddau ac mae gynnon ni drawstoriad enfawr o’r gymuned y tu ôl i ni eisoes,” meddai wedyn.
“Mae yna lu o gefnogaeth i hyn.
“Fe wnawn ni adeiladu arni, fe awn ni ymlaen ac mi wnawn ni ennill.”
Daw ei sylwadau yn fuan ar ôl iddo fynegi pryderon y gallai’r cais gael ei effeithio gan gais arall, mwy dadleuol i ddod yn ddinas.
Cafodd y cynlluniau hynny eu cefnogi gan aelodau’r bwrdd gweithredol, ond mae’r cynghorydd yn dweud nad oes rhaid i Wrecsam ddod yn ddinas er mwyn ennill y teitl Dinas Diwylliant, gyda threfi a rhanbarthau cyfan yn cael gwahoddiad i ymgeisio.
Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi cefnogi’r cais i ddod yn Ddinas Diwylliant ond wedi gwrthwynebu’r cais i ddod yn ddinas.
“Mae gynnon ni’r blociau adeiladu yn eu lle yma yn Wrecsam eisoes yn nhermau cais diwylliant,” meddai Marc Jones, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam.
“Rwy’n hyderus iawn y medrwn ni adeiladu ar y seiliau hynny, a gobeithio y bydd hyn yn llwyddiant.
“Rwy’n rhannu pryderon y bydd y cais am statws dinas yn cael ei gymysgu efo’r cais diwylliant ac mi allai hynny brofi’n broblematig, ond rwy’n dymuno’r gorau i’r cais diwylliant.”
Y cais
Caiff y gystadleuaeth i ddod yn Ddinas Diwylliant ei rhedeg gan Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig bob pedair blynedd.
Bydd cais Wrecsam yn canolbwyntio’n rhannol ar y cysyniad mai hi yw “cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru”, a hithau’n lleoliad sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y Wynnstay Arms yn 1876.
Bydd arwyddocâd yr iaith Gymraeg yn allweddol yn y cais hefyd, gyda logo’r cais yn arddangos y gair ‘Wrecsam’ wedi’i sillafu yn Gymraeg.
“Mae gan Wrecsam gymaint i’w gynnig pan edrychwch chi ar yr hanes, y dreftadaeth a’r diwylliant,” meddai Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Wrecsam.
“Efo’r ieithoedd sy’n cael eu siarad yn Wrecsam, mae’n gadarnle ac yn gymysgedd o ddiwylliant ledled gogledd Cymru.
“Ond yr hyn sy’n gwneud Wrecsam yw’r hanes a pha mor gynnes ydi pobol Wrecsam.”
Mae’r bwrdd gweithredol wedi cefnogi’r cynnig i symud y cais i’r cam nesaf, yn ogystal â chais i ddefnyddio £50,000 o arian y Cyngor i gynnal digwyddiad sy’n gysylltiedig â’r cais.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi rhoi £40,000 tuag at gefnogi datblygiad y cais.
Bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth, a’r enillydd yn cael ei choroni ym mis Mai.