Mae cyflenwad trydan nifer fawr o gartrefi  ledled Cymru wedi cael ei effeithio gan Storm Barra, tra bod teithio wedi cael ei amharu’n ddifrifol.

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym nes 6yh heno (nos Fercher, 8 Rhagfyr) ar gyfer rhannau helaeth o’r gorllewin a’r de.

Cafodd gwyntoedd o 84 milltir yr awr eu cofnodi yn Aberdaron ym Mhen Llŷn nos Fawrth (7 Rhagfyr).

Mae amryw o rybuddion llifogydd mewn grym gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys rhan helaeth o arfordir Cymru.

Mae cwmni ynni Scottish Power wedi rhybuddio fod rhai cwsmeriaid wedi bod heb drydan ar draws y gogledd dros nos, gan gynnwys ym Mhwllheli, Penygroes, Caernarfon, Dinorwig ac Aberdyfi.

Roedd cannoedd o gwsmeriaid Western Power Distribution wedi bod heb drydan mewn ardaloedd gwasgaredig ar draws de Cymru.

Fodd bynnag, roedd pawb wedi cael eu cyflenwad yn ôl erbyn bore Mercher.

Mae’r tywydd garw wedi gorfodi nifer o ffyrdd i gau ar draws y wlad, gan gynnwys hen Bont Hafren – yr M48 – yr A497 rhwng Efailnewydd a Phwllheli yng Ngwynedd, a’r A487 yn Niwgwl, Sir Benfro.

Yn y cyfamser mae degau o wasanaethau trên wedi cael eu canslo yn sgil y storm.