Mae Plaid Cymru yn galw am dynhau’r rheolau sy’n rheoli buddiannau personol uwch arweinwyr Banc Datblygu Cymru.
Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, gall cael arweinwyr o fewn y Banc sydd â buddiannau busnes allanol arwain at “ganfyddiadau negyddol”.
Mae Plaid Cymru bellach yn galw am adolygiad o drefniadau llywodraethu i sicrhau eu bod yn bodloni “disgwyliad rhesymol” y cyhoedd ac nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau gyda’r tîm sy’n arwain Banc Datblygu Cymru.
Mae Adam Price hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi eu Dogfen Fframwaith sy’n nodi eu disgwyliadau o ran llywodraethu, ynghyd â llythyr cylch gorchwyl a gafodd ei lofnodi ganddyn nhw gyda’r Banc.
Cafodd y Ddogfen Fframwaith ei diwygio ym mis Chwefror eleni.
Eglurder
“Ni ddylai budd y cyhoedd gael ei orgyffwrdd na’i esgeuluso gan fuddiannau preifat unigolion,” meddai Adam Price.
“Rhaid inni gael eglurder ynghylch a ddylai uwch arweinwyr Banc Datblygu Cymru fod yn buddsoddi mewn cwmnïau sy’n defnyddio gwybodaeth neu rwydweithiau a allai gael eu caffael drwy eu gwaith yn y Banc.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i adolygiad o’r trefniadau llywodraethu hynny i sicrhau eu bod yn bodloni disgwyliad rhesymol y cyhoedd nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau o fewn Banc Datblygu Cymru.”