Mae disgwyl i Boris Johnson ddod dan bwysau heddiw (8 Rhagfyr) ar ôl i fideo ddod i’r amlwg sy’n dangos staff Rhif 10 yn gwneud jôc am barti Nadolig honedig yn Rhif 10 yn ystod y cyfyngiadau clo y llynedd.

Fe fydd Boris Johnson dan y chwyddwydr yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog wrth iddo gael ei holi am yr ail wythnos yn olynol ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd yn Downing Street ar 18 Rhagfyr y llynedd.

Dywedodd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, bod y fideo o staff Rhif 10 yn chwerthin am barti “caws a gwin” yn awgrymu nad yw’r Prif Weinidog wedi bod yn “agored” am honiadau o barti Nadolig ac y dylai ymddiheuro.

Fe allai Boris Johnson hefyd wynebu beirniadaeth gan aelodau meinciau cefn ei blaid ei hun gyda’r Aelod Seneddol Ceidwadol Syr Roger Gale yn trydar: “Yn amlwg mae gan Rif 10 gwestiynau difrifol i’w hateb. Ar fyrder.”

Y fideo

Mewn fideo sydd wedi dod i law gwasanaeth newyddion ITV, cafodd Allegra Stratton, ysgrifennydd y wasg Boris Johnson, a’r ymgynghorydd Ed Oldfield, ynghyd a staff eraill, eu ffilmio yn gwneud jôc am barti “ffuglennol” yn Downing Street ym mis Rhagfyr 2020.

Mae Allegra Stratton i’w gweld yn ateb cwestiynau mewn cynhadledd newyddion ffug ar 22 Rhagfyr ynglŷn â pharti ar y nos Wener cyn hynny. Mae honiadau bod dwsinau o staff wedi mynd i’r parti yn ystod cyfnod pan oedd cymdeithasu dan do wedi’i wahardd yn Llundain o dan gyfyngiadau Haen 3.

Mae’r heddlu Metropolitan wedi cadarnhau bod swyddogion yn ymchwilio i’r fideo mewn cysylltiad â “honiadau o dorri rheolau” cyfyngiadau Covid.

Wrth ymateb i adroddiad ITV, dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: “Nid oedd parti Nadolig. Cafodd rheolau Covid eu dilyn drwy gydol yr amser.”

Mae gweinidogion hefyd wedi bod dan bwysau i esbonio sut yr oedd y parti honedig wedi dilyn y rheolau oedd mewn grym ar y pryd, ers i adroddiad ymddangos ym mhapur y Daily Mirror.

Dywedodd Keir Starmer: “Roedd pobl ledled y wlad yn dilyn y rheolau hyd yn oed pan oedd hynny’n golygu eu bod nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, ac – yn drasig i lawer – methu ffarwelio â’u hanwyliaid,” meddai.

“Roedd ganddyn nhw hawl i ddisgwyl bod y Llywodraeth yn gwneud yr un peth. Mae dweud celwydd a chwerthin am y celwyddau hynny yn gywilyddus.”