Mae hanner disgyblion uwchradd Cymru wedi’u haflonyddu’n rhywiol gan ddisgyblion eraill, yn ôl adroddiad newydd gan arolygwyr ysgolion Estyn.

Mae hyn yn cynnwys pwysau i rannu lluniau noeth o’u hunain, bwlio homoffobig, a merched yn cael eu haflonyddu am wisgo sgertiau.

Treuliodd arolygwyr Estyn gyfnodau mewn 35 o ysgolion gan siarad â 1,300 o ddisgyblion rhwng diwedd Medi a dechrau Hydref.

Dywed adroddiad Estyn bod disgyblion yn cael eu haflonyddu’n rhywiol yn rhywbeth cyffredin ac hyd yn oed yn fwy tebygol o ddigwydd y tu allan i oriau ysgol ac ar-lein.

Yn ôl Estyn, nid yw ysgolion yn sylweddoli maint y broblem gan arwain at ddisgyblion sy’n amharod i fynd at athrawon i drafod achosion o aflonyddu rhywiol.

Dywed yr adroddiad bod mwy o ferched yn dioddef aflonyddu rhywiol na bechgyn, gyda 61% o ferched yn dweud eu bod nhw wedi profi aflonyddu rhywiol o’i gymharu â 29% o fechgyn.

Mae’r adroddiad yn nodi fod profiad disgyblion o aflonyddu rhywiol yn cynyddu wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, gyda 95% o ddisgyblion yn dweud eu bod nhw wedi gweld aflonyddu rhywiol yn digwydd – a 72% ohonyn nhw’n dweud eu bod nhw wedi ei weld yn digwydd yn yr ysgol.

Mewn holiadur ychwanegol ar-lein gan Estyn, gafodd ei ateb gan 1,150 o ddisgyblion, dywedodd 26% o ferched a 23% o fechgyn eu bod nhw wedi cael eu cusanu neu eu cyffwrdd yn rhywiol heb eu caniatâd tra yn yr ysgol.

‘Dydyn Ni Ddim yn Dweud Wrth Ein Hathrawon’

“Enw’r adroddiad yw ‘Dydyn Ni Ddim yn Dweud Wrth Ein Hathrawon’ – a dyna ydan ni wedi ei ddarganfod,” meddai awdur yr adroddiad, Delyth Gray.

“Mae ’na fwlch enfawr rhwng beth mae disgyblion wedi bod yn dweud wrthon ni sy’n digwydd a’r hyn mae staff mewn ysgolion yn ei wybod.

“Dydy’r disgyblion ddim yn meddwl fod y pethau yma’n ddigon pwysig i ddweud wrth eu hathrawon, er eu bod nhw’n dueddol o ddigwydd bob dydd.”

“Annerbyniol”

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg: “Mae aflonyddu rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yn gwbl annerbyniol, ond fel y mae’r adroddiad hwn yn profi, mae mwyafrif y disgyblion yn ei ystyried yn normal.

“Mae ysgolion yn lleoedd lle dylai pobl ifanc deimlo’n ddiogel a gallu canolbwyntio ar gyrraedd eu potensial dysgu, heb deimlo dan straen, wedi eu treisio a’u cynhyrfu oherwydd sylw rhywiol digroeso.

“Mae’r adroddiad yn dangos bod gan fwyafrif o ferched brofiad personol o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, bod bwlio homoffobig yn gyffredin a bod yr hyn sy’n digwydd y tu allan i’r ysgol (yn enwedig ar-lein) yn cyfrannu’n helaeth at hyn.

“Gall effaith aflonyddu rhywiol fod yn ddinistriol i bobl ifanc, mae’n normaleiddio ymddygiad sy’n dod yn gyffredin mewn cymdeithas ehangach, fel sy’n amlwg yn cyfrannu at aflonyddu rhywiol menywod trwy gydol eu bywydau.

“A dweud y gwir, mae’n rhaid iddo stopio os ydym o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod difrifoldeb a phwysigrwydd y broblem, ac rydym nawr mewn trafodaethau gyda’r Gweinidog ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r mater.

“Gydag ymdrech ac adnoddau priodol, gall newid ddigwydd. Fodd bynnag, rhaid i Lywodraeth Cymru symud yn gyflym ac yn bendant.

“Rhaid i ysgolion eu hunain fod yn rhagweithiol wrth greu eu diwylliannau eu hunain heb aflonyddu a gweithredu ar unwaith i amddiffyn merched.

“Mae’n annerbyniol bod disgyblion yn adrodd bod aflonyddu rhywiol wedi cael ei normaleiddio a bod athrawon yn rhy aml yn bychanu’r mater.

“Mae angen iddynt addysgu staff fel eu bod yn deall yn llawn beth yw aflonyddu rhywiol a sicrhau bod ffyrdd hawdd a diogel i ferched adrodd am eu profiadau.

“Yn fwy eang, mae hefyd angen i’r cwricwlwm cenedlaethol annog sgyrsiau am barch a chydsyniad o oedran ifanc.

“Mae angen i gyflawnwyr aflonyddu rhywiol mewn ysgolion dderbyn neges glir iawn nad yw eu hymddygiad yn dderbyniol.

“Er enghraifft, profwyd bod ‘catcalling’ y gall rhai ei ystyried yn ddiniwed, os caniateir iddo ddigwydd, yn cynyddu i droseddau fel treisio.”

“Adlewyrchu cymdeithas”

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Yr Athro Sally Holland: “Rydw i eisiau diolch i’r bobl ifanc sydd wedi rhannu eu profiadau fel rhan o’r adroddiad yma.

“Mae angen i bobl ifanc wybod bod aflonyddu rhywiol byth yn dderbyniol ac yn rhywbeth ddylai gael ei gymryd o ddifrif bob amser.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau fod gan weithwyr proffesiynol gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, a chefnogi lleoliadau addysg i ddatblygu ffyrdd ysgol-gyfan i helpu atal aflonyddu rhywiol a chefnogi hawliau pobl ifanc.

“Er dweud hyn, nid problem ysgolion a cholegau yn unig yw hwn, a dylwn ni ddim edrych iddyn nhw i ddatrys problem enfawr gymdeithasol ar eu pennau eu hunain.

“Mae diwylliant ysgol o hyd yn adlewyrchu cymdeithas; mae hwn yn broblem i bawb.

“Ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod plant yn dechrau dysgu yn ifanc am gynnal perthnasau gyda pharch a chydraddoldeb.

“Mae rhai yn dweud mai materion i’r cartref yw’r rhain, ond dylai’r adroddiad yma fod yn arwydd mawr i bawb bod addysg orfodol cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol i iechyd ein gwlad.”