Ni ellir diystyru cyflwyno cyfnod clo ledled y DU i ddelio â bygythiad yr amrywiolyn Omicron, meddai aelod o’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (Sage).
Dywedodd yr Athro Neil Ferguson, o Goleg Imperial Llundain fod yr amrywiolyn yn peri pryder ond nad oedd yn hysbys o hyd beth fydd ei effaith ar glefydau difrifol.
Awgrymodd y gellid dweud wrth bobl am weithio gartref yn y dyfodol agos gan fod Omicron yn lledaenu’n gyflym, gyda’r amrywiolyn yn mynd i ddisodli amrywiolyn Delta cyn y Nadolig.
Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Yn sicr, mae nifer yr achosion o Omicron yn dyblu o leiaf bob tri diwrnod, hyd yn oed bob dau ddiwrnod ar hyn o bryd, felly mae’n lledaenu’n gyflym iawn.
“Mae’n debygol o ddisodli’r amrywiolyn Delta cyn y Nadolig ar y raddfa hon, mae’n anodd dweud yn union pryd.
“Byddwn yn dechrau gweld effaith ar niferoedd cyffredinol yr achosion – mae’n debyg mai dim ond 2% ydyw, 3% o’r holl achosion, ond o fewn wythnos neu ddwy, byddwn yn dechrau gweld niferoedd cyffredinol yr achosion yn cyflymu’n eithaf sylweddol hefyd.”
Dywedodd yr Athro Ferguson y bydd uchafbwynt y don hon o haint ym mis Ionawr os na chymerir unrhyw fesurau i’w arafu.
“Felly os nad ydych chi’n gwneud unrhyw beth nawr, mae’n debyg y bydd ar ei anterth rhywbryd ym mis Ionawr,” meddai.
“Ond rwy’n credu mai’r cwestiwn allweddol yw a yw’r wlad yn penderfynu mabwysiadu mesurau i naill ai ei arafu neu geisio ei hatal a bydd hynny’n dibynnu ar y bygythiad y mae’n ei achosi o ran yr ysbytai.
“Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim ffordd dda o ddelio â difrifoldeb y feirws yma, mae ychydig o awgrym yn y data yn y DU bod heintiau ychydig yn fwy tebygol o fod yn asymptomatig, ond mae gwir angen i ni gynyddu’r dystiolaeth honno ar hyn o bryd.”
‘Cyfyngiadau symud yn bosibl’
O ran y cyfyngiadau symud, dywedodd yr Athro Ferguson ei bod hi’n anodd iawn diystyru unrhyw beth, gan ychwanegu nad ydyn ni “wedi cael gafael ddigon da ar y bygythiad”.
Ychwanegodd: “Yn amlwg, os mai’r consensws yw ei bod yn debygol iawn y bydd y GIG o dan ormod o bwysau yna mater i’r Llywodraeth fydd penderfynu beth mae am ei wneud am hynny, ond mae’n sefyllfa anodd i fod ynddi wrth gwrs.”
“Yn sicr, gallai fod yn bosibl ar hyn o bryd.”