Mae miloedd o gleifion canser yng Nghymru yn wynebu baich ariannol o £734 y mis, yn ôl ymchwil newydd.
Dangosa ymchwil pellach gan elusen Macmillan bod miloedd o bobol â chanser yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd talu costau byw sylfaenol oherwydd y pandemig.
Mae’r elusen yn annog pobol i fanteisio ar gymorth arbenigol wedi iddi ddod i’r amlwg bod 87% o bobol â chanser yn profi rhyw fath o effaith ariannol o’u diagnosis.
I’r rhai sy’n cael eu heffeithio, mae’r swm yn £734 y mis, ar gyfartaledd, ar ben eu gwariant arferol.
Yn ôl yr ymchwil, mae mwy nag un ymhob tri pherson sydd â chanser yn cael eu heffeithio’n ariannol yn ddifrifol am eu diagnosis.
Mae dadansoddiad Macmillan yn awgrymu y gallai cost ariannol canser fod wedi cynyddu’n uwch na chost chwyddiant ers i’r elusen ddechrau datgelu effeithiau ariannol canser am y tro cyntaf yn 2012.
Gwaith yn “bryder”
Dywedodd Debbie o Fachen ger Caerffili, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron ym mis Mawrth 2019, fod gwaith wedi dod yn “bryder” iddi ar ôl iddi ddechrau teimlo “effaith ofnadwy’r” driniaeth ar ei chorff.
Cafodd Debbie gymorth gan dîm Budd-daliadau Lles Macmillan yng Nghanolfan Ganser Felindre.
“Roedd y tîm budd-daliadau lles yn angylion llwyr – roedd yn rhyddhad pwysau ar unwaith, ac ni allwn gredu pa mor gyflym a hawdd y gwnaethant fy helpu,” meddai Debbie.
“Roeddwn i’n profi colli gwallt, blinder eithafol, cyfog diddiwedd, clotiau gwaed, ceg ddolurus gyson a’r cyfan tra’n gofyn i mi fy hun yn ddyddiol “Ydy o’n gweithio? Ydw i’n mynd i fod yn iawn? Ydw i’n mynd i fod yno o hyd ar gyfer fy nheulu?”
“Fyddwn i ddim wedi gallu llenwi fy enw fy hun bryd hynny, heb sôn am lenwi ffurflenni budd-daliadau lles cymhleth na cheisio gweithio system allan nad oeddwn erioed wedi’i defnyddio o’r blaen.
“Dyna’r gwahaniaeth y gwnaeth y tîm budd-daliadau lles. Fe es o boeni am sut i dalu biliau a phryd y byddai fy nghyflog salwch yn rhedeg allan, i gael y lle a’r amser yr oedd ei angen arnaf i wella yn hytrach na rhuthro’n ôl i’r gwaith.
“Byddwn yn argymell y dylai unrhyw un sydd â chanser ofyn am gyngor ariannol cyn gynted ag y gallant ar ôl cael diagnosis – bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Effaith y pandemig
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 51% o bobol â chanser yng Nghymru yn gweld cynnydd mewn costau byw o ddydd i ddydd.
Mae 24% wedi profi costau teithio ychwanegol wrth deithio’n ôl ac ymlaen i’w hapwyntiadau, a 23% wedi gweld cynnydd yn eu biliau tanwydd.
Ynghyd â hynny, mae mwy na 78% yn profi colli incwm.
Dangosa’r ymchwil gan Macmillan bod Covid-19 wedi gwaethygu’r anawsterau ariannol i lawr, gyda 10% o bobol â chanser yng Nghymru’n dweud bod Covid-19 wedi effeithio ar gyllid eu cartrefi.
Mae’r elusen yn rhybuddio am oblygiadau ehangach y pwysau hwn, gyda 56% y rhai sydd â chanser ledled y Deyrnas Unedig sydd wedi cael eu heffeithio’n ariannol gan Covid yn teimlo’n bryderus neu dan straen.
Dywedodd 29% eu bod nhw wedi profi iechyd gwaeth yn gyffredinol, a dywedodd 10% eu bod nhw wedi colli apwyntiadau ysbyty.
“Byw, nid goroesi’n unig”
Mewn ymateb i’r dystiolaeth, mae Macmillan yn annog unrhyw un sy’n profi effaith ariannol canser i fanteisio ar gymorth sydd ar gael drwy’r elusen.
Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau ar gyfer Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, eu bod nhw’n derbyn mwy a mwy o alwadau i’w llinell gymorth gan bobol sy’n byw â chanser ac yn poeni am effaith ariannol eu diagnosis cyn y pandemig, hyd yn oed.
“Mae’r pandemig wedi achosi i’r pryderon hyn waethygu,” meddai Richard Pugh.
“Bob dydd bellach mae ein llinell gymorth, a thimau gwasanaeth budd-daliadau lles ledled Cymru, yn clywed gan bobl sydd wedi teimlo effaith ariannol y toriad Credyd Cynhwysol, biliau ynni cynyddol neu ddiwedd ffyrlo, gan eu gwneud yn fwy pryderus am eu harian na’u hiechyd.
“Mae angen i bobol sydd â chanser fyw, nid goroesi’n unig, ac mae timau Macmillan sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ar ein llinell gymorth – ac yn ein gwasanaethau ledled Cymru – wrth law, bob dydd, yn gwthio i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac yn ei haeddu.”