Mae elusen blant NSPCC wedi penderfynu ysgrifennu llythyrau Cymraeg ar ran Siôn Corn, ac am annog mwy o blant Cymru i ddefnyddio’r gwasanaeth eleni.

Dechreuodd yr elusen ateb llythyrau yn Saesneg ugain mlynedd yn ôl, cyn cyflwyno’r gwasanaeth drwy’r Gymraeg yn 2010.

Nod yr NSPCC yw gwneud y llythyrau “mor gynhwysol â phosib, gan gydnabod nad oes dau deulu’r un fath”.

Mae’r llythyrau personol gan Siôn Corn yn llawn hanesion Nadoligaidd am fanylion hudol a straeon am Begwn y Gogledd, ac yn ôl yr elusen mae gallu darparu gwasanaethau Cymraeg yn bwysig wrth eu helpu i atal cam-drin ac esgeuluso plant.

“Hyd y Nadolig”

“Does dim byd yn cyfleu hud y Nadolig fel llythyr gan Siôn Corn. Dyna pam mae ymgyrch llythyr gan Siôn Corn NSPCC, yn annog ein cefnogwyr i archebu llythyr personol gan Siôn Corn ar gyfer y rhai bach,” meddai Siân Regan, swyddog datblygu NSPCC.

“Mae’r llythyrau hyn, sy’n cael eu hysgrifennu gan Siôn Corn, yn llawn hanesion Nadoligaidd am Begwn y Gogledd a manylion hudol a phersonol, mai dim ond Siôn Corn sy’n gwybod amdanynt.

“Nod yr NSPCC yw gwneud y llythyrau hyn mor gynhwysol â phosibl, gan gydnabod nad oes dau deulu’r un fath, felly mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn cynnig y llythyrau hyn yn Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

“Mae gallu darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg yn bwysig iawn i’r NSPCC o ran ein helpu i gyflawni ein nod o atal cam-drin ac esgeuluso plant.

“Rydym yn falch iawn bod y llythyrau hyn ar gael yn Gymraeg ac maent bob amser yn boblogaidd gyda’n cefnogwyr, yn ogystal â’n cardiau Nadolig dwyieithog y gellir eu harchebu o’n siop ar-lein.”

Cryfhau ysbryd yr ŵyl

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn cydweithio â sawl elusen yng Nghymru, gan roi arweiniad ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

Wrth ganmol NSPCC am eu hymrwymiad tuag at y Gymraeg, a’u gweledigaeth i gryfhau ysbryd yr ŵyl yn y Gymraeg, dywedodd Swyddog Hybu Comisiynydd y Gymraeg bod y Saesneg yn estron i nifer o blant Cymru.

“Mae nifer o blant yng Nghymru yn cael eu magu ar aelwydydd uniaith Gymraeg, ac mae’r iaith Saesneg yn estron iddynt,” meddai Jane Edwards.

“Mae hi’n bwysig felly eu bod yn gallu anfon llythyr Cymraeg ato, a derbyn llythyr Cymraeg yn ôl.

“Gwyr pawb fod Siôn Corn yn medru pob iaith, ac rydym yn diolch yn fawr iawn i NSPCC am gynnig y gwasanaeth arbennig hwn i blant Cymru.

“Mae’r gwasanaeth hwn yn cyfoethogi profiad plant o’r Nadolig.”