Mae Olaf Scholz wedi cael ei ethol fel arweinydd yr Almaen yn dilyn pleidlais ymysg aelodau’r senedd.

Bydd yn olynu Angela Merkel, sydd wedi bod yn Ganghellor ers 16 mlynedd, yn y gobaith o foderneiddio’r wlad a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Enillodd Olaf Scholz gefnogaeth 395 o aelodau Senedd yr Almaen heddiw (8 Rhagfyr), a bydd yn cael ei enwi’n ffurfiol fel canghellor yr Almaen gan yr arlywydd yn nes ymlaen heddiw.

Mae Olaf Scholz, 63, yn is-ganghellor yr Almaen ac yn weinidog cyllid ers 2018, a bydd yn arwain clymblaid rhwng ei blaid yntau sef y Democratiaid Sosialaidd, a’r Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhydd, yn y llywodraeth.

Eu bwriad yw bod yn gynghrair flaengar a fydd yn dod ag egni newydd i’r wlad.

“Rydyn ni’n dechrau ar gyfnod newydd, un sy’n mynd i’r afael â heriau mawr y degawd hwn a thu hwnt i hynny,” meddai Olaf Scholz ddoe.

Os fydd y tair plaid yn llwyddo, yna mae’n “fandad i gael ein hail-ethol gyda’n gilydd yn yr etholiad nesaf”, meddai.

Blaenoriaethau

Mae’r llywodraeth newydd yn bwriadu cynyddu eu hymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, a stopio defnyddio ynni glo erbyn 2030 “yn ddelfrydol”.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cyflwyno polisïau cymdeithasol mwy rhyddfrydol, gan gynnwys gwneud canabis yn gyfreithlon ar gyfer pwrpasau adloniannol, a gwneud hi’n haws i gael dinasyddiaeth Almaeneg.

Mae Olaf Scholz wedi awgrymu y bydd polisi tramor y wlad yn parhau’n debyg i’r polisi fu dan Angela Merkel, gan ddweud y bydd y llywodraeth yn sefyll dros Undeb Ewropeaidd gref ac yn meithrin cynghreiriaid draws-Atlantaidd.

Er hynny, mae’r glymblaid wedi addo gwneud mwy i alltudio mewnfudwyr sydd ddim yn ceisio lloches.

Un o gyd-arweinwyr y Blaid Werdd, Robert Habeck, fydd is-ganghellor Olaf Scholz.

Cafodd y glymblaid rhwng y tair plaid ei ffurfio’n gymharol sydyn a heb ormod o drafferth, a dywedodd Olaf Scholz y bydd hi’n “amser da iawn, iawn ar gyfer [gwneud] y tasgau sydd o’n blaenau ni os yw’r cydweithio da a weithiodd tra’r oedden ni’n ffurfio’r llywodraeth yn parhau”.

Mae mesurau llym sy’n targedu pobol sydd heb eu brechu yn yr Almaen wedi cael eu cyhoeddi’n ddiweddar, a bydd y senedd yn ystyried gwneud hi’n orfodol i bobol gael eu brechu.

Ni fydd Angela Merkel yn chwilio am rôl wleidyddol arall, meddai, ac er nad ydi hi wedi manylu ar unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd yn gynharach eleni ei bod hi am gymryd amser i ddarllen a chysgu.

“Ac wedyn, cawn weld lle y gwnâi droi fyny.”

Plaid Angela Merkel yn colli’r etholiad yn yr Almaen

Curodd y blaid, sydd i’r chwith o’r canol, floc Union Angela Merkel mewn pleidlais agos