Mae Boris Johnson wedi ymddiheuro am fideo ble roedd staff Rhif 10 Downing Street yn jocian am barti Nadolig y llynedd, pan oedd cyfyngiadau Covid mewn grym yn Lloegr.

Mae’r Prif Weinidog wedi gorchymyn Ysgrifennydd y Cabinet, Simon Case, i gynnal ymchwiliad er mwyn sefydlu’r holl ffeithiau i weld oedd staff wedi torri rheolau.

Ar ddechrau Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, dywedodd Mr Johnson ei fod yn “rhannu dicter” pobol, gan ddweud ei fod yn meddwl bod y fideo yn “ofnadwy”.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, fod y prif weinidog yn trin y cyhoedd fel “ffyliaid”.

Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Johnson: “Rwy’n ymddiheuro’n ddiamod am y sarhad y mae hyn wedi’i achosi ledled y wlad.”

Ond dywedodd hefyd ei fod wedi cael ei “sicrhau dro ar ôl tro nad oedd unrhyw barti ac nad oedd unrhyw reolau Covid wedi’u torri”.

Fe ychwanegodd y Prif Weinidog, os yw rheolau wedi’u torri, “y bydd camau disgyblu i bawb sy’n gysylltiedig [a’r parti]”.

Daeth yr ymddiheuriad ar ôl i fideo gan ITV ddangos cyn-bennaeth y wasg y Prif Weinidog, Allegra Stratton, yn jocian am y gynnal parti wrth ymarfer ar gyfer cynhadledd newyddion fis Rhagfyr diwethaf.

Mae Heddlu’r Metropolitan yn dweud eu bod yn ymchwilio i gynnwys y fideo.

Yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher 8 Rhagfyr), bu i Allegra Stratton ymddiswyddo fel llefarydd y Prif Weinidog ar faterion yn ymwneud â chynhadledd Cop26, a hynny gyda datganiad dagreuol o flaen ei chartref.

“Ffyliaid”

Mae Rhif 10 wedi treulio’r wythnos ddiwethaf yn gwadu bod unrhyw reolau wedi’u torri. Mae’r dystiolaeth newydd hon yn codi amheuon am hynny.

Fe ddywedodd Keir Starmer yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog fod ymateb Boris Johnson “yn codi mwy o gwestiynau nag atebion”.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur: “Treuliodd y Prif Weinidog, y Llywodraeth, wythnos gyfan yn gwadu nad oedd parti yn Rhif 10.

“Mae miliynau o bobl nawr yn meddwl bod y Prif Weinidog yn eu trin nhw fel ffyliaid, eu bod nhw’n dweud celwydd wrthyn nhw.

“Onid ydyn nhw’n gywir?”

“Afiach ac ofnadwy”

Atebodd Boris Johnson: “Rwy’n credu iddo fethu’r hyn a ddywedais. Ymddiheuraf am yr argraff a roddwyd bod staff yn Downing Street yn cymryd hyn yn llai nag o ddifrif. Rwy’n Meddwl ei fod yn afiach ac yn ofnadwy.”

Fe feirniadodd Keir Starmer gyhoeddiad Boris Johnson am ymchwiliad gan Ysgrifennydd y Cabinet gan ddweud fod yr hyn a ddigwyddodd yn “glir”.

“Does bosib nad yw’r Prif Weinidog bellach yn mynd i ddechrau creu esgusodion mai neithiwr oedd y cyntaf a wyddai am hyn oll?” meddai.

Yna, cyfeiriodd at raglen I’m a Celebrity Get Me Out Of Here ble mae Boris Johnson wedi bod yn destun dychan i’r cyflwynwyr Ant a Dec dros yr wythnos ddiwethaf.

Yna, aeth Keir Starmer ymlaen i dynnu sylw at arweinyddiaeth y Frenhines yn ystod y pandemig wrth iddo gwestiynu a oes gan Boris Johnson yr “awdurdod moesol” i arwain a gofyn i bobl gadw at unrhyw gyfyngiadau pellach yn y dyfodol.

Mae disgwyl i gyfyngiadau pellach gael eu cyflwyno yn Lloegr heddiw yn sgil lledaeniad yr amrywiolyn newydd, Omicron.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur wrth Dŷ’r Cyffredin: “Eisteddodd Ei Mawrhydi ar ei phen ei hun pan oedd hi’n nodi marwolaeth y dyn yr oedd wedi bod yn briod ag ef ers 73 o flynyddoedd [Dug Caeredin, y Tywysog Phillip].

“Arweinyddiaeth, aberth – dyna sy’n rhoi’r awdurdod moesol i arweinwyr allu arwain.”

Dominic Cummings

Yn ystod y sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin fe ddaeth cyhuddiad o’r newydd ar Twitter gan gyn-ymgynghorydd Boris Johnson, Dominic Cummings, am barti arall – ym mis Tachwedd 2020 y tro hwn.

Dywedodd Dominic Cummings: “A fydd gofyn i’r CABSEC hefyd ymchwilio i’r parti *fflat* ddydd Gwener Tachwedd 13, y partïon fflat eraill a pholisi ‘swigod’ y fflat…?”

Gwadu’r cyhuddiadau gwnaeth Boris Johnson.

“Rhaid cael gwared arno”

Fe alwodd arweinydd yr SNP, Ian Blackford, am ymddiswyddiad Boris Johnson gan gwestiynu ei allu i arwain y wlad: “Mae gan y Prif Weinidog ddyletswydd, un dewis cywir a moesol sydd ar ôl iddo: ei ymddiswyddiad. Pryd allwn ni ei ddisgwyl?”

Nododd Mr Blackford fod yna gwestiynau moesol i’w hateb gan y Prif Weinidog: “Rhaid i bob aelod o feinciau’r Ceidwadwyr benderfynu nawr: Ai dyma’r dyn i arwain yr ynysoedd hyn pan fydd bywydau yn y fantol?”

“Mae’n bryd i aelodau’r Tŷ hwn weithredu, os nad yw’n ymddiswyddo, yna rhaid cael gwared arno.”

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, hefyd wedi galw am ymddiswyddiad Prif Weinidog Prydain.

Fe ddywedodd Adam Price ar ei gyfrif Twitter: “Tra roedden ni’n hiraethu, roedden nhw’n chwerthin. Er ein bod ni’n galaru, roedden nhw’n ein gwawdio. Er ein bod yn glynu wrth y canllawiau, roeddent yn dal dau fys i fyny. Mae’n un rheol iddyn nhw ac un arall i bawb arall. Mae’n bryd rhoi’r gorau i’r parti. Rhaid i’r Prif Weinidog fynd.”

Allegra Stratton yn ymddiswyddo

Mae Allegra Stratton wedi dweud wrth ddarlledwyr y tu allan i’w thŷ ei bod wedi ymddiswyddo yn sgil cyhoeddiad y fideo ohoni’n jocian am y parti yn Downing Street.

Mewn datganiad dagreuol y tu allan i’w chartref, ymddiheurodd Allegra Stratton am ei sylwadau am y parti Nadolig.

Wrth roi’r gorau i’w rôl fel llefarydd y Prif Weinidog ar gyfer uwchgynhadledd hinsawdd Cop26 dywedodd: “Roedd fy sylwadau fel pe baent yn gwneud sbort am ben y rheolau, y rheolau yr oedd pobl yn gwneud popeth i ufuddhau iddynt.

“Doedd hynny byth yn fwriad gennyf. Byddaf yn difaru’r sylwadau hynny am weddill fy nyddiau a hoffwn ymddiheuro’n fawr i bob un ohonoch gartref amdanynt.”

Dywedodd ei bod yn deall y “dicter a’r rhwystredigaeth” mae pobl yn ei deimlo.

“I bob un ohonoch a gollodd anwyliaid, a ddioddefodd unigrwydd annioddefol ac a gafodd drafferth gyda’ch busnesau, rwy’n wirioneddol flin a’r prynhawn yma rwy’n cynnig fy ymddiswyddiad i’r Prif Weinidog.”

Boris Johnson dan bwysau ar ôl i fideo ddod i’r amlwg am barti honedig Rhif 10

Mae’r fideo yn dangos staff Rhif 10 yn chwerthin am barti “caws a gwin” yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo ar 18 Rhagfyr y llynedd