Mae’n amlwg bod “gwersi i’w dysgu” o’r ffordd y gwnaeth y Swyddfa Dramor fynd i’r afael â’r dasg o helpu pobol i adael Affganistan, meddai’r Ysgrifennydd Tramor.

Dywedodd Liz Truss heddiw (8 Rhagfyr) bod yna “ymdrech arwrol” i hedfan 15,000 o bobol o’r wlad fis Awst pan ddaeth y Taliban i rym.

Fodd bynnag, wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Rhyngwladol ddoe (7 Rhagfyr), fe wnaeth Liz Truss gyfaddef bod angen newid prosesau yn ei hadran.

Mae Aelodau Seneddol wedi beirniadu’r “diffyg arweinyddiaeth” yn ystod yr ymgyrch, ar ôl i is-ysgrifennydd parhaol y Swyddfa Dramor gyfaddef ei fod yn difaru parhau â’i wyliau wrth i Kabul ddisgyn i ddwylo’r Taliban.

“Gwersi i’w dysgu”

Aeth Syr Philip Barton ar wyliau ar 9 Awst, gan aros i ffwrdd o’r gwaith am 11 diwrnod ar ôl i’r Taliban gipio grym ar 15 Awst.

“Dw i wedi myfyrio lot… a pe bawn yn cael yr amser byddwn i wedi dod yn ôl o fy ngwyliau yn gynharach nag y gwnes i,” meddai wrth Aelodau Seneddol.

Dywedodd wedyn ei fod yn “difaru’r ffaith na benderfynais ddod yn ôl i gefnogi” ei gydweithwyr, ond nad oedd yn credu bod ei benderfyniad “wedi effeithio canlyniad” yr ymgyrch.

“Yn amlwg mae yna wersi i’w dysgu,” meddai Liz Truss.

“Mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn eglur y dylai fod wedi dychwelyd o’i wyliau ynghynt, fel oedd fy rhagflaenydd hefyd.”

Collodd Dominic Raab ei rôl fel Ysgrifennydd Tramor wedi’r ymgyrch, a chafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, ond roedd pwysau arno i ymddiswyddo ar ôl iddo beidio dychwelyd o’i wyliau yng Ngwlad Groeg wrth i Kabul gael ei chipio gan y Taliban.

“A’r hyn dw i wedi’i wneud, ers dod yn Ysgrifennydd Tramor, yw sicrhau bod gennym ni brosesau mewn lle i fynd i’r afael ag unrhyw faterion yn y dyfodol,” ychwanegodd Liz Truss.

Dywedodd bod risgiau’n cael eu monitro’n well nawr, a bod ganddyn nhw system ymateb brys well.

“Anhrefnus a mympwyol”

Wrth roi tystiolaeth i aelodau seneddol, dywedodd cyn-lysgennad y Deyrnas Unedig yn Affganistan, Syr Laurie Bristow, ei fod wedi rhybuddio’r awdurdodau yn Llundain tua 13 Awst ei bod hi’n debygol y byddai’r Taliban yn cipio grym yn Affganistan.

Yn ôl yr adroddiadau, ni wnaeth Dominic Raab ddychwelyd o’i wyliau ar ynys Creta yng Ngwlad Groeg tan 16 Awst – dridiau ar ôl y rhybudd.

Dywedodd un o gyn-weision sifil y Swyddfa Dramor ddechrau’r wythnos fod Dominic Raab wedi arwain ymgyrch “anhrefnus” a “mympwyol” yn Affganistan.

Yn ôl Raphael Marshall, a roddodd dystiolaeth i’r un pwyllgor, dim ond 5% o’r bobol ofynnodd am help i adael Affganistan gafodd yr help hwnnw.

Cafodd rhai eu llofruddio ar ôl cael eu gadael yn Kabul, meddai, gan ychwanegu nad oedd Dominic Raab i weld yn “deall y sefyllfa yn llawn”, ei fod yn araf yn gwneud penderfyniadau ar achosion pobol oedd am ddianc o Affganistan, a’i fod eisiau i’r wybodaeth gael ei hailosod mewn “tabl taclus” cyn gwneud penderfyniad.

Mae Dominic Raab wedi amddiffyn ei weithredoedd, gan ddweud “ei bod hi’n ymddangos nad yw rhannau o’r feirniadaeth yn cyd-fynd â’r ffeithiau”.

“Dw i ddim yn meddwl bod yna ddigon o gydnabyddiaeth wedi cael ei roi i ba mor anodd oedd hyn,” meddai wrth y BBC.

Dywedodd un diplomydd o Aberhonddu, mai gweithio yn Affganistan yn ystod yr ymdrech i helpu pobol i adael oedd y peth “anoddaf” iddo’i wneud erioed.

  • Gallwch darllen holl erthyglau golwg360 a chylchgrawn Golwg – heb wal dalu – am y cyfnod dan sylw yn Affganistan, isod.

“Dw i’n ofni mai dyna’r alwad ffôn olaf” meddai brodor o Affganistan wrth Golwg 360

Jacob Morris

Ers i’r Taliban gymryd rheolaeth o Affganistan mae brodor o’r wlad yn poeni am ddiogelwch ei deulu

Diplomydd o Aberhonddu’n sôn am ei brofiad yn Affganistan wrth Golwg360

Bu’n rhaid i Rhys Annett gysuro babi yn ei freichiau wrth helpu pobl i ffoi o Kabul

Affganistan: anobaith wedi ugain mlynedd o wrthdaro

Jacob Morris

Mae’r dyfodol yn ansicr, gyda hawliau menywod a rhyddid gwleidyddol trigolion y wlad yn y fantol