Mae David TC Davies, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, wedi cael ei weld yn siambr Tŷ’r Cyffredin ddwyawr unig wedi iddo fethu sesiwn y Pwyllgor Materion Cymreig oherwydd salwch.

Gwelwyd yr Aelod Ceidwadol dros Sir Fynwy yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog er iddo fod yn absennol i ateb cwestiynau gan ASau yn y pwyllgor seneddol yn gynharach.

Roedd sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn un dadleuol wedi i Boris Johnosn ymddiheuro am fideo oedd yn dangos staff Downig Street yn jocian am barti Nadolig anghyfreithlon y llynedd.

Yn ôl adroddiadau gan Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru, roedd David TC Davies i’w weld wrth fynedfa’r siambr lawn Tŷ’r Cyffredin.

Fe wnaeth yr aelod hefyd wrthod cyfweliad gyda’r BBC oherwydd salwch.

Dywedodd Elliw Gwawr ar ei chyfrif Twitter: “Cornel top dde – wele David TC Davies oedd yn rhy sâl i fynychu Pwyllgor Materion Cymreig y bore ma a rhy sâl i wneud cyfweliad efo fi pnawn ma yn sefyll yn y siambr”.

Ddeng munud cyn i’r Pwyllgor Materion Cymreig gyfarfod a 10 o’r groch, fe ymddiheurodd Swyddfa Cymru na fyddai David TC Davies yn bresennol gan ei fod wedi bod yn sâl gyda norovirus ddoe (Rhagfyr 8).

Gwnaed ymddiheuriadau ar ran David TC Davies gan gadeirydd y Pwyllgor, Stephen Crabb, AS Ceidwadol Preseli Penfro.

Ond erbyn canol dydd fe welwyd ar lawr siambr Tŷ’r Cyffredin.

Roedd y pwyllgor yn clywed gan David Rutley AS, y Gweinidog Cyflenwi Lles yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, fel rhan o’i ymchwiliad i’r system budd-daliadau yng Nghymru.

Dyma oedd sesiwn olaf yn yr ymchwiliad.

Ymateb

Wrth ymateb i Golwg360 fe ddywedodd David TC Davies ei fod yn siomedig o orfod trafod materion personol ac iechyd.

“Anaml iawn y byddaf yn mynd yn sâl fel y dengys fy nghofnod,” meddai.

“Rwy’n amau mai achos o wenwyn bwyd sy’n gyfrifol.”

Ychwanegodd ei fod wedi bod wedi yn sâl yn y gwaith drwy’r dydd ddoe (Rhagfyr 8) felly fe wnaeth brawf Covid, oedd yn dangos canlyniad negyddol.

“Canslwyd yr holl gyfarfodydd ar gyfer ddoe, a heddiw, gan gynnwys y Sesiwn Materion Cymreig,” meddai.

Dywedodd mai dim ond “rhan gefnogol” oedd ganddo yn y cyfarfod Materion Cymreig gan ei fod yn canolbwyntio ar faterion yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn cael ei arwain gan Weinidog arall.

“Bore ’ma, fe wnes i ddefro tua 9 o’r gloch. Mae hyn yn anarferol iawn gan fy mod fel arfer yn codi ar 06:30 ac yn mynd i’r gampfa,” meddai.

“Roeddwn i’n teimlo’n llawer gwell. Roeddwn i’n teimlo’n ddigon da i fynd i’r gwaith – er ei fod yn llawer hwyrach nag arfer.“

Ychwanegodd ei fod yn y gwaith ar hyn o bryd ond ddim yn cynnal “cyfarfodydd mawr”.