Mae cynllun San Steffan ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd ledled y Deyrnas Unedig yn parhau “i ganolbwyntio” ar dde-ddwyrain Lloegr, yn ôl Mark Drakeford.
Fe ddywedodd y Prif Weinidog nad yw’r system bresennol “yn gweithio i Gymru”.
Yn ddiweddar mae rheilffyrdd Cymru wedi cael eu disgrifio fel y rhai gwaethaf ym Mhrydain mewn arolwg.
Fe wnaeth 22% o’r trigolion o Gymru wnaeth ymateb i’r arolwg gan YouGov ddweud eu bod nhw’n credu bod darpariaeth rheilffyrdd yn eu hardal nhw’n wael.
Dywedodd 11% o ymatebwyr Cymreig nad oedd ganddyn nhw unrhyw wasanaeth trên lleol, tra bod 22% yn tybio bod gwasanaethau lleol yn dda.
Roedd Mark Drakeford yn ymateb i gwestiwn gan ei gyd-aelod Jenny Rathbone, AoS Llafur Canol Caerdydd, ddoe (dydd Mawrth 7 Rhagfyr), yn dilyn cymeradwyaeth adroddiad Hendy i gynigion am fetro ar gyfer de-ddwyrain Cymru.
Dechreuodd Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, dan gadeiryddiaeth Syr Peter Hendy, ar eu gwaith ym mis Hydref 2020 gyda chylch gwaith i adolygu ansawdd ac argaeledd seilwaith trafnidiaeth ledled y Deyrnas Unedig.
‘Canolbwyntio ar Loegr’
Wrth ymateb fe ddywedodd y Prif Weinidog fod y “seilwaith rheilffyrdd yn parhau i ganolbwyntio ar fuddsoddi yn ne-ddwyrain Lloegr”.
“Nid oes gennym unrhyw reolaeth drosto. Nid oes gennym lais dros y broses, ac mae’r broses ei hun yn anhryloyw; mae’n fiwrocrataidd, ac mae’n araf.”
Mae Boris Johnson wedi addo creu rhwydwaith drafnidiaeth strategol dros y Deyrnas Unedig gyfan.
Hefyd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi derbyn rhai cynigion gan y Pwyllgor Materion Cymreig i greu Bwrdd Rheilffyrdd i Gymru.
Y bwriad yw creu fforwm swyddogol a fydd yn edrych ar seilwaith a buddsoddiad er mwyn cynnig gwelliannau i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
Bydd y bwrdd newydd yn cynnwys y Pwyllgor Materion Cymreig, Llywodraeth Cymru, Network Rail, y gweithredwyr rheilffyrdd sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru.
HS2 a Chymru
Soniodd y Prif Weinidog hefyd am gynllun HS2 a’i effaith ar Gymru gan ystyried nad oes unrhyw ran o’r cledrau’n yng Nghymru.
“Nid yw’r cae chwarae yn lefel yma … gyda’r rhaglen HS2, caiff arian ei ddyrannu drwy fformiwla Barnett i’r Alban, gant y cant,” meddai.
“I Ogledd Iwerddon, mae’n gant y cant. I Gymru, mae’n sero y cant – er gwaetha’r ffaith na fydd HS2 yn dod i Gymru o gwbl.
“Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn dangos ei bod yn fwy tebygol o wneud niwed economaidd i Gymru na gwneud lles economaidd.”
Ddywedodd Natasha Asghar, AoS Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru, ei bod wedi siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i bod yn “cydnabod, wrth wella cysylltiadau trafnidiaeth, fel chi, eu bod yn rhan bwysig o helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith a chefnogi twf busnes ledled Cymru.”
Gwnaeth hefyd amddiffyn agenda “lefelu fyny” Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan fynnu bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi’n helaeth mewn seilwaith rheilffordd.
Tywydd garw
Mae problemau ynghylch buddsoddi mewn rheilffyrdd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yn dilyn tywydd garw.
Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth lafur Cymru a Phlaid Cymru yn “gam yn y cyfeiriad cywir” o ran cryfhau cysylltiadau trenau a gwella siâp rheilffyrdd y wlad, meddai Liz Saville Roberts – gan ychwanegu na fydd HS2 o fudd i Gymru.
Yn ddiweddar fe ddywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth golwg360 fod angen sicrhau bod y rheilffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol, yn rhan o’r amddiffynfeydd, yn ogystal â’u bod nhw’n ddolenni cyswllt rhwng ardaloedd.
‘Angen buddsoddiad i sicrhau bod rheilffyrdd Cymru’n gallu gwrthsefyll llifogydd’
Gwasanaethau trên Cymru yw’r lleiaf boddhaol ym Mhrydain, yn ôl arolwg
Adolygiad yn argymhell gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr